aeth), a'r olaf mewn annedd huriedig yn y wlad hon—yr hon sydd yn ddinas noddfa i freninoedd a breninesau, ymherawdwyr a thywysogesau, ag ydynt yn dygwydd colli eu sefyllfaoedd. Ac edrychwch ar yr hen ddyn crynedig yna yn Rhufain—dyna ddyn hen a methedig yn cael ei gyhoeddi yn anffaeledig—dyna fe, yn methu penderfynu pa beth i'w wneyd na pha le i fyned—pa un a â efe mewn agerlong i Malta, ac yno i fod yn dywysog ysprydol i arolygu yr Eglwys Rufeinig, neu ynte i gymmeryd ychydig ystafelloedd huriedig yn Belgium; neu ynte a fydd iddo eistedd i lawr a marw yn y Vatican, ac i gael ei amddiffyn yno gan filwyr Itali. Gan mai dyma sefyllfa pethau yn Ewrop, byddai yn bechod ynom — yn bechod o'r fath waethaf yn erbyn Duw a dyn, i beidio cymmeryd mantais o arwyddion yr amserau, ac i fyned yn mlaen, a chymmeryd meddiant o'r tir yn enw ein Harglwydd a'n Meistr mawr. Ond i wneyd hyn, rhaid i ni gael rhagor o arian. A pha fodd y gallwn ni ychwanegu ein trysorfa? Y mae yn ngallu ein heglwysi i ychwanegu derbyniadau y Gymdeitnas, heb feichio y rhai ag ydynt yn awr yn gwneyd yn dda, a hyny drwy wneyd y casgliadau blynyddol yn gyffredinol, ac nid yn rhanol fel yn bresenol. Wrth gymmeryd i fyny y Llawlyfr a Mynegiad y Gymdeithas Genadol am y flwyddyn hon, cawn y canlyniadau canlynol. Rhoddir cyfrif o eglwysi, heblaw 757 o gangenau a gorsafoedd pentrefol; bydd i ni adael allan y cangenau, gan ymwneyd yn unig ag eglwysi corffoledig. Cyfanswm yr eglwysi yn y Deyrnas Gyfunol yw 2,335; o'r rhai hyn y mae genym yn Lloegr, 1,716; yn Nghymru, 501; yn Scotland, 87; yn yr Iwerddon, 31; ac o'r 2,335 eglwysi yn y Llawlyfr, cawn yn Mynegiad y Gymdeithas fod 1,297 wedi casglu at y Genadaeth yn y flwyddyn oedd yn diweddu Mawrth 31ain, 1870—a gwahaniaetha y tanysgrifiadau a'r casgliadau o 3s. 4c. a gasglwyd gan yr eglwys fechan yn Lixwm, Swydd Fflint, i'r swm tywysogaidd o £254 1s. 9c., a gasglwyd gan yr eglwys sydd dan weinidogaeth alluog Dr. Brock. Gadawa hyn 1,038 o eglwysi na wnaethant gasglu yn ystod y flwyddyn. O'r eglwysi na wnaethant gasgliad, y mae 834 o honynt yn Lloegr, 141 yn Nghymru, 46 yn Scotland, a 17 yn yr Iwerddon. Cawn fel hyn fod 5½ y cant o'r eglwysi yn Lloegr yn gwneyd casgliad, a 48½ y cant na wnaethant gasgliad yn ystod y flwyddyn ddiweddaf; yn Nghymru, cawn 71¾ y cant o'r eglwysi yn
Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/284
Gwedd