gweithrediad. Cymmerodd negro henafol ei le wrth y bwrdd, gyda'i lyfr yn ei law, er gosod i lawr y symiau a gyfrenid. Daeth lluaws yn mlaen, a chyfranent i'r drysorfa symiau bychain yn ol eu hamgylchiadau cyfyng. Yn mhlith ereill, daeth hen negro cyfoethog yn mlaen, yr hwn a osododd i lawr ddernyn bychan o arian. Cymmerwch hwn yn ol," ebe yr hen ddyn wrth y bwrdd. Gall fod yn ol y penderfyniad cyntaf, ond nid yn ol yr ail; cymmerwch ef yn ol." Gwnaeth y gŵr cyfoethog felly, a brysiodd yn ol i'w eisteddle. Daeth un ar ol y llall o'r bobl dlodion yn mlaen; a chan fod y rhan amlaf o honynt yn rhoddi rhagor nag a gynnygiodd y negro cyfoethog, teimlai yn gywilyddus o hono ei hun. Daeth yn mlaen drachefn, a bwriodd ar y bwrdd ddernyn gwerthfawr o aur, gan ddweyd mewn llais digofus, "Dyna, cymmerwch hwna." Ond dywedodd y gŵr da wrth y bwrdd, "Na, ni wnaf hyny ychwaith; gall fod yn ol y penderfyniad cyntaf, ac yn ol yr ail, ond nid yw yn ol y penderfyniad diweddaf." A gorfu i'r hen ddyn fyned yn ol drachefn. Eisteddodd i lawr, ac wedi myned dros y mater yn ei feddwl, teimlodd ei fod yn feius, a thrwy gymhorth gras Duw, y byddai iddo wneyd yn iawn. Yna aeth yn mlaen at y bwrdd gyda gwên ar ei wyneb, yr hyn a arwyddai fod ei galon wedi ei chyfnewid, a chyflwynodd swm mawr i'r drysorfa. "Da iawn," ebe y trysorydd negroaidd, "gwna hyn y tro,—mae hyn yn ol yr oll o'r penderfyniadau." Tarawyd fi yn hynod gan dair ffaith yn ystod fy ymweliad ag America y llynedd. Gofynwyd i mi fwy nag unwaith i roddi anerchiad gerbron aelodau y "Gymdeithas Ymofynol" yn ein Prifysgolion yno. Yr oedd teitl y gymdeithas yn newydd i mi; ond cefais allan yn fuan fod ein myfyrwyr gweinidogaethol yn ein Prifysgolion a'n Colegau yn yr America yn ffurfio eu hunain yn gymdeithas, i'r dyben o osod eu hunain mewn gohebiaeth uniongyrchol â'r cenadon mewn gwledydd tramor. Cadwant yn mlaen ohebiaeth barhaus â'r holl oruchwylwyr mewn gwledydd pell, a thrwy hyny deuant yn gydnabyddus â dyledswyddau, treialon, dyoddefiadau, peryglon, a llawenydd y cenadon. Meithrinant yspryd cenadol yn ystod eu cwrs athrofaol, a deuant yn barod i gynnyg eu hunain at wasanaeth cenadol mewn gwledydd tramor. Cefais fod sefydliad duwinyddol Prifysgol Madison yn unig wedi anfon allan dros driugain o'i gwyr goreu i China, Siam, Burmah, ac India. Trwy y
Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/286
Gwedd