Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/287

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

moddion hyn, nid yw Undeb Cenadol y Bedyddwyr yn America yn fyr o ddynion i'r meusydd cenadol. Y mae'r Ysgolion Sabbothol yn America yn gwneyd gwaith da yn y cyfeiriad hwn hefyd. Y mae llawer o'r ysgolion yn argymmeryd i gynnal cenadwr, neu athraw, mewn lleoedd neillduol; a chant fynegiadau parhaus o'r maes gyda golwg ar y defnydd a wneir o'u tanysgrifiadau. Fel hyn, y mae yr Ysgolion Sabbothol yn America yn dyfod yn fath o sefydliadau cenadol, gan gydweithredu â bwrdd gweithredol yr Undeb; a cha y plant eu meithrin mewn yspryd cenadol o'u mabandod i fyny. Dysgir hwy fel hyn yn foreu i gyfranu—ac y maent yn cyfranu—cyfranant oll, a hyny yn llawen. A chymmeryd y ddwy ffaith a nodwyd, cyfrifant braidd yn hollol am y canlyniadau a geir yn Mynegiad diweddaf Undeb Cenadol Bedyddwyr America. Y mae ganddynt yn awr 1,919 o orsafoedd, 630 o eglwysi, 957 o oruchwylwyr, a bedyddiwyd yn ystod y flwyddyn 4,600. Cynnydd ar y flwyddyn ddiweddaf:—169 o orsafoedd, 12 o eglwysi, 110 o oruchwylwyr, 1,050 trwy fedydd, a 1,345 o aelodau. Cyfrifa eu trefn reolaidd o weithio wedi hyny am ffaith arall, sef fod y tanysgrifiadau wedi cynnyddu yn ystod y 25 mlynedd diweddaf i'r swm o 384 y cant. Credaf y gellid dilyn 'siampl y myfyrwyr ieuainc yn ngholegau America gan bobl ieuainc yn ein colegau yn y wlad hon; a phe efelychai ein Hysgolion Sabbothol yn Mhrydain Fawr Ysgolion Sabbothol America, ennillai y Gymdeithas o leiaf £5,000 y flwyddyn mewn arian, pan y byddai y dylanwad moesol ar y genedl bresenol, a chenedloedd ag ydynt etto heb eu geni, tuhwnt i ddim a allwn gyfrif yn bresenol.


ARAETH WLEIDYDDOL YN ABERHONDDU.

Ar ol ateb rhai gofyniadau am dano ei hun, dywedodd Dr. Price,

"O barthed i'm hawl i ddyfod i geisio eich pleidleisiau, yr oeddwn yn meddwl fod genyf gystal hawl ag unrhyw berson, os yn barod i wneyd yr aberthau gofynol i wasanaethu eich lles chwi. Yr wyf yn Gymro ganedig a magedig, yn Gymro mewn calon a theimladau. Yr wyf yn Annghydffurfiwr oddiar argyhoeddiad. Ganwyd fi yn nghymmyd-