Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/289

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am yr hyn yr oeddem yn ddyledus i Iarll Russell; ac am ei yswirdeb argyllidol yr oeddem yn ddyledus i Mr. Gladstone. Gyda'r ddau eithriad hyn, yr oedd gwladlywiaeth Palmerston yn ddidrefn, gwastraffus, anwadal, ac anfoddhaol. (Clywch, clywch.) Yr oedd yn Rhyddfrydwr mewn enw, ond mewn gwirionedd, yn gwneyd archiadau y Toriaid. Ac etto, dyma yr oll mewn sylwedd a addawyd gan yr urddasol ymgeisydd yn ei anerchiad cyntaf.

"Yr oedd anerchiad Mr. Gwyn yr oll a allech ddysgwyl oddiwrth Geidwadwr proffesedig a chysson. Yr ydym yn cael yn aml ddarluniad o'r gwarchodion a'u pruning knife, fel pe bai y Ceidwadwyr erioed mewn cariad â'r gyllell docio. (Cymmeradwyaeth.) Mae pob un sydd wedi darllen hanesyddiaeth yn gwybod fod Ceidwadaeth wedi bod yn bwysau marwol i bob cynnydd, diwygiad, a gwelliant. (Cymmeradwyaeth.) Yna, mae yr Ymneillduwyr cydwybodol' yn dod, fel pe na f'ai Mr. Gwyn erioed wedi cyfarfod ag Ymneillduwr cydwybodol. Beth! Yr oedd hyd y nod William Hopkins, y crydd, Ystradgynlais, yn dal fod ganddo gydwybod, er fod yr ynadon yn rhyfeddu am y fath ddrychfeddwl, ac yn cymmeryd lledr y dyn, a'i werthu i'r heddgeidwaid am hanner ei werth marchnadol, er talu y dreth eglwys. Nid oes un cweryl rhyngof a'r boneddigion hyn y mae ganddynt hawl i feddu eu golygiadau; ond rhoddaf y gofyniad hwn i chwi, A ydyw yr egwyddorion a osodir allan yn yr anerchiadau hyn yn arddangos golygiadau y mwyafrif o etholwyr Aberhonddu? Credaf nad ydynt, a hyn oedd fy rheswm yn dyfod allan i'ch cynnorthwyo chwi, neu rai o honoch, i argymmeryd eich gwrthdystiad yn y cyfarfodydd, ac ar lyfr yr etholres, yn erbyn y cyhoeddiadau (manifestoes) hyn. Daethum allan er gwneyd prawf—gosod wrth y test y galwadau uchel a wnawd mewn rhai lleoedd a chynnulliadau o barthed yr angenrheidrwydd o ethol Cymro ac Annghydffurfiwr Cymreig i gynnrychioli o leiaf un o'r 32 o'r cynnrychiolaethau (constituencies) Cymreig, ac yr oeddwn am weled pa help allasai dyn ymarferol gael i fyned i'r Senedd, heb ei orfodi i ymgyduno â hanner cyfreithwyr y fwrdeisdref, a sicrhau hanner y tafarnwyr (uchel gymmeradwyaeth), ac a allai dyn gael ei ddychwelyd ar lai traul na phunnoedd bathawl yn cael eu cyfrif wrth y miloedd? Yr ateb wyf wedi ddysgu yw, fy mod ychydig o flaen yr amser. Ond, foneddigion, fe ddaw yr amser pryd y gwneir hyn, a gallesid