Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/290

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

meddwl fod Aberhonddu yn faes teg er gwneyd y fath brawf (clywch, clywch), gan fod yma yn y fwrdeisdref hon ddim llai nag wyth cynnulleidfa o Annghydffurfwyr, ac hefyd Goleg pwysig, lle y mae ein gweinidogion dyfodol yn cael eu dysgu yn yr egwyddorion dros y rhai y darfu ein tadau Puritanaidd waedu a marw. (Cymmeradwyaeth.) Mae y cwestiwn o Ddiwygiad Seneddol yn sicr o gael sylw y deddfwyr yn yr eisteddiad nesaf, a dylech chwi fod yn barod i edrych y gofyniad yn deg yn ei wyneb. Credaf fod tri phwynt i ymwneyd â hwy cyn y gall y gofyniad hwn gael ei ystyried a'i benderfynu-yr etholfraint, dyogeliad y pleidleisiwr, ac ail-ddosparthiad eisteddleoedd Seneddol. Gadewch i ni edrych ar yr etholfraint fel y mae yn awr yn meddiant y corff etholiadol yn y wlad hon. Mae Ty y Cyffredin presenol yn gyfansoddedig o 656 o aelodau, 466 o honynt wedi eu dychwelyd i gynnrychioli siroedd a bwrdeisdrefi yn Lloegr; 105 dros yr Iwerddon; 53 dros Ysgotland; a 32 dros Gymru. Mae y rhai hyn yn cael eu hethol yn ol darpariadau Ysgrif Ddiwygiadol 1832, gan ryw nifer o bersonau sydd â chymhwysder rhoddedig ganddynt i arfer yr hawl hon. Mewn siroedd dan ryw drefniadau, gall y rhydd-ddeiliad, nawdd-feddiannwr, prydleswr, a thir-ddeiliad, os bydd ei rent yn £50 y flwyddyn, bleidleisio dros gynnrychiolydd i'r Senedd; tra mewn bwrdeisdrefi, mae gan ddaliedydd tai a thir gwerth £10 y flwyddyn hawl i fod yn nghofres y pleidleiswyr. Cafodd hyn ei benderfynu yn y flwyddyn 1832-34 mlynedd yn ol, ac nid oes un cyfnewidiad wedi cymmeryd lle er hyny, mor bell ag y mae a fyno â Lloegr, Ysgotland, a Chymru; ond yn yr Iwerddon, mae yr etholfraint wedi cael ei hiselhau gryn lawer. Trwy Act 1850, cafodd ei darostwng i £12 o ardreth-dâl yn y siroedd, ac i £8 yn y bwrdeisdrefi. Yn y flwyddyn 1864, cyfanrif y pleidleiswyr ar holl lechresau y Deyrnas Gyfunol oedd 1,333,690. Byddai y nifer anferth hwn i roddi canolrif o 2,033 o bleidleiswyr i bob un o'r 656 aelodau, a chaniatau eu bod yn cael eu dosparthu yn gyfartal. Ond pan yn tynu allan o'r llechres yr holl ddychweliadau deublyg, cymmeryd i ystyriaeth yr holl farwolaethau, y symmudiadau, a'r annghymhwysderau ereill, byddem yn lleihau llawer iawn ar lechres y pleidleiswyr gweithredol, ac yn eu cael yn rhifo i'r eithaf tua 1,100,000, allan o'r boblogaeth anferth o rhwng 29 a 30 miliwn, fel nad oes genym yn y wlad hon