Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/291

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond un person allan o bob 29 o eneidiau â hawl ganddo i bleidleisio dros aelod i Dy y Cyffredin. Gadewch i ni geisio gwneyd hyn yn hollol eglur i bob un o honoch. Meddyliwch pe bai yn bossibl i ni gasglu at eu gilydd holl drigolion y Deyrnas Gyfunol, byddai iddynt gyda'u gilydd orchuddio arwynebedd o 1,567 o erwau o dir. Yn awr, byddai i 1,500 o erwau osod allan yn gywir y rhan hono o bobl y wlad hon nad oes hawl ganddynt i bleidleisio, tra y byddai y 67 erw fyddai ar ol yn dangos y rhan sydd â llais ganddynt yn bresenol yn etholiad aelodau i'r Senedd i wneyd ein cyfreithiau. (Cymmeradwyaeth.) A ydyw yn iawn i feddwl am fynud fod hyn yn gynnrychioliad teg o'r bobl? Onid yw yn annghysson, annghyfiawn, a chreulawn? Yn ddiau, mae enwi y cyntaf yn ddigon i argyhoeddi yr ystyriol. (Uchel gymmeradwyaeth.) A ydyw yn deg a chyfiawn i gyfyngu yr etholfraint i lai na 4 per cent. o boblogaeth y deyrnas hon? Etto, pe meddyliem fod un o'r 1,100,000, y rhai ydynt ar y rhestr, yn benau teuluoedd yr hyn nid ydynt mewn gwirionedd—ond tybiwn hyny am funyd; yna, gallwn osod i lawr y byddai iddynt hwy gynnrychioli eu hunain, eu gwragedd, eu plant, a'u gweision teuluol, pan yn defnyddio yr hawl i bleidleisio; ond hyd y nod wed'yn, byddem yn gadael 5,000,000 o deuluoedd heb eu cynnrychioli o gwbl. Neu, dywedwch y byddai i'r 1,100,000 etholwyr hyn i gynnrychioli 5,500,000 o eneidiau mewn etholiad pennodedig, etto y mae genym y ffaith bwysig y byddai 25,500,000 wedi eu cau allan yn hollol oddiwrth ragorfreintiau yr etholfraint. Credaf, fonoddigion, fod chwareu teg, gonestrwydd cyffredinol, a chyfiawnder noeth yn galw am helaethiad yr etholfraint. (Cymmeradwyaeth.) Heb fyned yn bresenol i ymresymu dros nac yn erbyn platform Llundain am etholfraint i bob dyn mewn oedran, neu dros gyhoeddiad Manchester am etholfraint bleidleisiol eglur, neu dros y cynllun cynnygiedig gan ryw gyfeillion yn Birmingham neu Newcastle-upon-Tyne, mae yn amlwg fod yn rhaid i gryn helaethiad gymmeryd lle. Yr wyf yn ystyried na wna dim yn fyr o £10 rentdâl yn y siroedd, a £5 yn y bwrdeisdrefi, gyfarfod â galwadau yr achos. (Cymmeradwyaeth.) O'm rhan fy hun, awn yn mhellach, a dywedwn y dylai pob dyn sydd â'i enw ar y treth-lyfrau, wedi byw 12 mis yn yr un district etholiadol, ac yn gwbl rydd oddiwrth drosedd, gael pleidlais. Byddai hyn yn gyfiawn a gonest i'r gweithiwr sydd