Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/292

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn talu ei ran er cynnal anrhydedd ac urddas ei wlad. Ond mae y gofyniad yn dod, A ddylai y cyfoeth hwn a'r anwybodaeth hon fod yn sylfaen cynnrychioliad? Hyd y nod ar y cyfrif hwn, ni ddylai y dyn gweithgar gael ei gau allan oddiwrth y fraint o gael pleidlais.

Gyda golwg ar gyfoeth y wlad, cymmerwn Dŷ yr Arglwyddi. (Gosododd Mr. Bowden ofyniad i fewn yn y fan hon, yr hwn a foddwyd gan dwrf mawr y gynnulleidfa.) Efallai mai yn hwn y mae y corff mwyaf cyfoethog yn yr holl fyd. Mae un o awdurdod digonol, ar ol ymchwiliad manwl, wedi gosod i lawr gyllid blynyddol Tŷ yr Arglwyddi yn £11,000,000; ond i fod yn gwbl sicr, gadewch i ni ddyblu y swm uchod, ac i osod swm anferthol Tŷ yr Arglwyddi yn £22,000,000; yna, cymmerwch ochr arall y gofyniad. Mae yr un awdurdod wedi gosod swm cyllid blynyddol dosparth gweithiol y wlad hon yn £250,000,000; ond i fod yn gwbl sicr ar y pen hwn etto, ni a'i tynwn i lawr i'r hanner, a'i ystyried yn £125,000,000; felly, mae cyllid y dosparth gweithiol yn y man lleiaf yn ddeg cymmaint ag eiddo Tŷ yr Arglwyddi. (Uchel gymmeradwyaeth.) Felly, os mai eiddo neu gyfoeth sydd i fod yn sail etholfraint, y dosparth gweithiol, sydd yn dal mwyaf o eiddo ddylai ei chael. Edrychwch ar y trethi a delir trethi a delir gan wahanol ddosparthiadau yn y wlad hon, a chawn weled mai y gweithiwr, o bawb dynion, sydd yn talu y trethi trymaf. Mae yn talu allan o bob punt a ennilla drwy chwys ei wyneb bum swllt yn drethi. Felly, mae yn cael ei drethu yn ol £25 y cant ar ei holl enillion; o ganlyniad, nid yw ond gwir onestrwydd a chyfiawnder i roddi iddo lais yn ffurfiad y deddfau hyny a wasgant gymmaint arno (cymmeradwyaeth). Os cymmerwn ddysgeidiaeth yn sail i gyfreithloni hyn, yr ydym yn dweyd fod gan y gweithiwr hawl ar y tir hwn hefyd. Mae cynnydd mawr wedi bod yn mhlith y dosparth gweithiol er pan basiwyd y Reform Bill yn 1832; ac os oedd sefyllfa addysg yr adeg hono yn cyfreithloni y Llywodraeth i helaethu yr etholfraint—yn Mwrdeisdref Aberhonddu, er enghraifft, o 15 i 242: cyn y Reform Bill yn 1832, rhif y pleidleiswyr oedd 15 yn unig; ond ar ol iddo basio ychwanegwyd hwynt i 242—yr ydym yn sicr ddigon fod sefyllfa pethau ar hyn o bryd yn gofyn am helaethiad ychwanegol arni. Yn awr, gadewch i ni gymmeryd cipolwg am fynyd ar rai pethau, fel prawf o ddealltwriaeth, doethineb, a sefydlogrwydd y dosparth gweithiol yn