Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/293

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y Deyrnas Gyfunol. Yn y flwyddyn 1831—blwyddyn cyn pasiad y Reform Bill—yr oedd 1,276,747 o blant yn y gwahanol ysgolion, sef trwy ystyried un ysgolor am bob 11 o'r holl boblogaeth. Yn 1861, pryd y gwnawd y cyfrif ddiweddaf, yr ydym yn cael fod 2,750,000 o blant dan addysgiaeth, ag ystyried un am bob saith o'r boblogaeth. Mae hyn yn gynnydd ardderchog mewn 30 o flynyddau, ac y mae y rhif o hyd ar ei gynnydd. Yn 1831, yr ydym yn cael yn yr holl wlad 55 o sefydliadau celfyddydol (Mechanics' Institutes), yn cynnwys ynddynt oll 7,000 o aelodau; ond yn 1861, yr ydym yn cael dim llai na 800 o'r sefydliadau hyn, yn cynnwys tua 140,000 o aelodau. Yn 1831, yr oedd yn y wlad 429,503 o bersonau ag arian yn y Savings' Bank, symiau y rhai yn nghyd oeddynt yn £13,000,000; ond yn 1861, yr ydym yn cael dim llai na 1,500,000 yn ei ddefnyddio, a chanddynt, er anrhydedd iddynt, y swm mawr o £40,000,000 yn y sefydliadau hyn (clywch, clywch). Edrychwch etto ar y cymdeithasau dyngarol, aelodau pa rai a rifir wrth y cannoedd o filoedd, a'u heiddo yn werth rhwng 12 a 15 miliwn o bunnau. Mae genym yn bresenol un o bob pedwar o rai mewn oed yn aelodau yn y sefydliadau hyn yn ein gwlad, pan y cewch ar Gyfandir Ewrop ddim ond un allan o bob 70 yn aelod yn unrhyw sefydliad dyngarol o gwbl. Mae genym yn ein cymdeithasau adeiladu 100,000 o aelodau, a swm eu tanysgrifiadau yn £1,790,000 yn flynyddol (cymmeradwyaeth). Cymerwch un ffaith arall. Yn 1831, yr oedd yn y wlad hon 295 o bapyrau newyddion; ond yn awr, mae genym 1,270, ac y mae eu rhif yn cynnyddu o hyd, tra y mae y cynnydd wedi bod yn fawr yn y rhai chwarterol, misol, ac wythnosol. Yr wyf yn nodi y pethau hyn er dangos fod gan bobl weithgar ein gwlad hawl deilwng i'r etholfraint (clywch, a chymmeradwyaeth).

"Yna bydd ail ddosparthiad eisteddleoedd seneddol yn ffurfio rhan bwysig yn unrhyw reform bill er boddlonrwydd i'r wlad, trwy fod cymmaint o gyfnewidiadau wedi cymmeryd lle er y flwyddyn 1831. Wrth gymmeryd y gofrestr etholiadol am 1864, a rhanu y pleidleiswyr yn gyfartal rhwng y 656 aelodau sydd yn Nhy y Cyffredin, gwelwn y bydd y canolrif yn gosod 2,033 o bleidleiswyr ar gyfer pob un o'r 656 aelodau. Byddai y canolrif sydd ar gyfer 466 sydd yn Lloegr yn cynnwys 2,073 pleidleisiwr i bob aelod; i'r 105 sydd yn yr Iwerddon byddai 1,958 ar gyfer pob un