Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/294

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o'r aelodau; ar gyfer pob un o'r 53 sydd yn Ysgotland byddai 1,919; a'r 32 a aelodau sydd dros Gymru, byddai 1,860 o bleidleiswyr ar eu cyfer. Ond y mae yr annghyfartalwch rhyngddynt yn bresenol y tu hwnt i bob crediniaeth. Gwnawn egluro hyn gydag un ar ddeg o fwrdeisdrefi mawrion, ag sydd yn dychwelyd rhyngddynt 24 o aelodau i'r Ty, a deuddeg o fwrdeisdrefi bychain sydd yn dychwelyd 24 o aelodau i'r Senedd. Yn mlaenaf, ni gymmerwn Bristol, Finsbury, Lambeth, Liverpool, Manchester, Dinas Llundain, Marylebone, Tower Hamlets, Westminster, Glasgow, a Dublin. Y rhai hyn yn nghyd a gynnwysant 3,758,668 o eneidiau. Rhif y pleidleiswyr ar y cofrestr ydyw 212,329; gwerth blynyddol y berchenogaeth yw £29,164,664; maent yn talu o ardreth y swm o £3,433,635; ac yn dychwelyd 24 o aelodau i'r Senedd. Wrth gymmeryd y deuddeg bwrdeisdref canlynol, sef Andover, Buckingham, Chippenham, Thetford, Cockermouth, Harwick, Devizes, Honiton, Leamington, Great Marlow, Marlborough, a Richmond, ni a gawn fod eu poblogaeth yn 68,106, etholwyr yn 3,858, a gwerth blynyddol eu perchenogaeth yn £314,202, yr ardreth yn £22,679; ac etto, y maent yn anfon 24 o aelodau i'r Senedd. Dangosa hyn o hono ei hun yr annghyfartalwch a'r anghyssondeb mawr o eiddo ein cynnrychiolaeth. Os cymmerwn fwrdeisdref fechan Portarlington dan sylw, gyda ei 106 etholwyr, yr ydym yn cael fod un etholwr yn Portarlington yn gyfartal i 48 yn Salford, yn gyfartal i 151 yn Swydd Cork, ac yn gyfartal i 290 o etholwyr yn Tower Hamlets. Mae yr afresymoldeb yn un rheidiol o fod yn amlwg i bawb. Edrychwch ar Bristau a Thetfordy blaenaf yn werth 13,829 o etholwyr, a'r olaf ddim ond 223; etto anfonant yr un nifer o aelodau, sef dau, i'r Senedd; ac yn ol fel y mae pethau yn aros yn awr, y mae Thetford, gyda ei 223, yn gyfartal i Bristau, gyda ei 13,829, mewn aelodau Seneddol. Pe cawsai bwrdeisdrefi Thetford, Marlborough, Andover, Honiton, Knaresborough, Calne, Arundel, Tewkesbury, a Leominster, eu gwneuthur yn un fwrdeisdref, byddai rhif eu pleidleiswyr yn llawn 2,001, yr hyn a roddai hawl iddynt ddychwelyd un aelod rhyngddynt; ac ar sail rhif, cyfoeth, a gwybodaeth, dylai Bristau gael anfon wyth aelod i'r Ty (clywch, clywch, a chymmeradwyaeth). Trwy archwiliad manwl yn y cofrestr, canfyddir fod un hanner o'r aelodau presenol yn cael eu hanfon i fewn wrth lai nâ 14 y cant, pan y mae yr han-