Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/295

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ner arall yn cael eu dychwelyd yn ol 86 y cant. Felly, yn Nhy y Cyffredin, ar unrhyw raniad, y mae yr aelodau yn ol 14 y cant yr un mor bwysig, ac o'r un dylanwad, a'r rhai yn ol 86 y cant. Yr ydym felly yn meddwl y dylai ailffurfiad gael ei ddwyn oddiamgylch (clywch, (clywch). Carem ni weled Crughywel, Gelli, Glasbury, a Llanfairynmuallt, yn gystal a Threfcastell, wedi eu hychwanegu at Aberhonddu (cymmeradwyaeth uchel), fel ag i ffurfio un fwrdeisdref (cynimeradwyaeth barhaol). A chredwch fi, foneddigion, byddai yn ddoethineb mawr ynoch i ddwyn hyn oddiamgylch yn ddioed, onide chwi gewch weled rhyw foreu teg y caiff Aberhonddu ei hysgubo oddiar y cofrestr yn gyfangwbl (clywch, clywch).

"Y pwynt nesaf yn unrhyw reform bill ddylai fod dyogelwch y pleidleisiwr wrth bleidleisio. Rhoddi cyfle i'r gweithiwr i bleidleisio heb y dyogelwch priodol ar ei gyfer wrth ymwneyd â hyn, fyddai ddim amgen na thwyll, neu siom a magl. (Clywch, clywch.) Credaf fod y Tugel yn ffordd a gynnwys y dyogelwch priodol (bravo, a chymmeradwyaeth); ac felly, byddwn yn llawen i weled y tugel yn rhan o gyfraith y tir. (Cymmeradwyaeth adnewyddol).

Carwn yn annghyffredin, pe buasai amser yn caniatau (Ewch yn mlaen am wythnos, os mynwch '), i gyfeirio eich sylw at faterion eglwysig. Yn fy anerchiad i chwi fel pleidleiswyr, ar y 19eg o'r mis diweddaf, nodais fy ngolygiadau yn agored a gonest ar y cyssylltiad, neu yr annghyssylltiad, yn hytrach, a ddylai fodoli rhwng crefydd a'r Wladwriaeth. (Clywch, clywch). Rheda y nodiad fel hyn:— Mewn materion eglwysig, yr wyf yn Annghydffurfwr. Credaf nad yw crefydd Crist wedi cael ei bwriadu gan ei Sylfaenydd dwyfol i fod yn fath o beiriant neu offeryn i'r Wladwriaeth, ac y byddai yn llesiant mawr i wir grefydd gael ei rhyddhau oddiwrth bob nawdd a rheolaeth wladwriaethol. Felly, tra yn sefyll yn gadarn dros iawnderau, ac yn caru llesiant pawb dynion, a meithrin y teimladau mwyaf o barch a chariad tuag at yr Eglwys Esgobaidd, fel un o gymdeithasau Cristionogol ein gwlad, mi a gefnogwn yn llawen fesur er perffaith ddadgyssylltiad yr Eglwys oddiwrth y wladwriaeth, gan gredu yn gadarn y profai hyny yn weithred o fendith i'r Eglwys ei hunan, yn gystal a mesur syml o gyfiawnder tuag at gynnulleidfaoedd crefyddol ereill ag sydd o fewn i'r deyrnas hon.' (Cymmeradwyaeth). Nid wyf wrthyf fy hun ar y pen