Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/296

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwn. Mae rhai o'r dynion goreu yn yr Eglwys Sefydledig o'r un fath opiniwn. Er profi hyn, ni wnaf ond cyfeirio eich sylw at bregeth alluog a bregethwyd yn ddiweddar o flaen Prifysgol Cambridge, gan y Parch. John Ingle, o Trinity College, lle y noda:—'Nid yw yr amser yn mhell, pryd yr amddifadir yr Eglwys o bob rhyw oruchafiaeth (predomination), yn gymdeithasol neu wleidyddol, a feddiennir ganddi yn bresenol, ac y bydd i'r gwahanol sectau a'i hamgylchyna i gael eu gosod, gyda golwg ar yr holl freintiau a'r iawnderau cyhoeddus, ar yr un tir o gydraddoldeb a hithau.' (Cymmeradwyaeth). Cofiwch nad fy ngeiriau I ydoedd y rhai hyna, ond geiriau a draddodwyd o flaen Prifysgol Cambridge ychydig ddyddiau yn ol. (Cymmeradwyaeth.) Gallaswn eich arwain hefyd at achos Colenso, a'r effaith uniongyrchol ar weithrediadau pum' esgob New Zealand, y rhai ddychwelasant, mewn modd parchus, eu breint—lythyrau fel esgobion i'r Goron, gan ddymuno o hyny allan, yn hytrach, i fyw yn gydradd â'r sectau crefyddol ereill yn y lle hwnw. (Clywch, clywch). Cyfeiriaf chwi at nodiad arall yn fy anerchiad a gyhoeddwyd mewn cyssylltiad â nawdd yr Eglwys, sef:— Gwnawn fy ngoreu dros gael pwyllgor ymchwiliadol, er chwilio i mewn i waith yr Eglwys Sefydledig a'r Ysgolion Gwaddoledig, er cael allan gyfanswm y ddarpariaeth a wnawd, ac a wneir ar gyfer angenrheidiau ysprydol y bobl, ac addysg plant tlodion, yn nghyd â'r effaith o osod mewn swyddau uchel rai nad ydynt yn deall iaith y bobl; y drwg mawr o fyned a chyfraniadau y Llywodraeth at eglwysi tlodion Cymru er mwyn gwaddoli eglwysi cyfoethog mewn manau ereill; a pha un a yw y Sefydliad yn Nghymru wedi ateb dyben ei fodolaeth, ac a ydyw wedi dwyn ffrwyth cyfartal i'r symiau mawrion a gymmerir ganddo o drethi y wlad. Credaf nad oes un wlad ag y mae Eglwys Sefydledig ynddi a`i nawdd yn cael ei gam—arfer yn fwy nag yn Nghymru y tri chan' mlynedd diweddaf. (Clywch, clywch). Cyfyngaf fy hun yn gwbl i ffeithiau— ffeithiau ag sydd yn gwbl awdurdodedig. Yn Johnes Essay on the causes of Dissent in Wales,' yr ydym yn cael y gosodiad canlynol:— Pan ymgymmerodd Harri VIII. a'r gwaith o reoli y Sefydliad, cwympodd y mynachdai yn Nghymru, yn gystal ag yn Lloegr, yn nghyd a thai crefyddol ereill; ond nid dyma yr unig ddystryw. Dihatrwyd Swydd Feirionydd o'r degwm yn gyfartal i un hanner o swm holl elw yr offeiriaid a