Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ygu yn dra hawdd pa brydferthwch ysprydol lewyrchai ar ei wynebpryd hardd, y modd nerthol y dyrchafai ei lais seingar fel udgorn Brenin Seion, fel y llifeiriai geiriau gwirionedd Duw dros ei wefusau, yn enwedig yn amser diwygiad mawr Maesyberllan, fel y fflamiai argyhoeddiadau megys o bob brawddeg i galonau ugeiniau o bechaduriaid. Nid oedd Thomas Price yn meddwl am ddim ar y dechreu ond cael dyfyrwch gyda y bedydd, a gwneyd gwawd o'r bedyddedigion; ond fel yr oedd doniau y pregethwr yn gwresogi, ac yn cryfhau fel llifeiriant dyfroedd cryfion, collodd Thomas ei draed odditano, ac fel y dywedai Thos. Williams, Blaenybrynach, “mi a'i gwelwn yn myned gyda'r llifeiriant, y galon yn cael ei thoddi, a'r llygaid yn llawn o ddagrau." Dyna yr argraffidau crefyddol cyntaf ar feddwl Thomas bach. Addefai John Stuart Mill iddo yntau un adeg deimlo cynhyrfiadau a chymhellion cryfion i ymaflyd mewn crefydd, ond esgeulusodd ei hun yr adeg hono. Ni wreiddiodd yr had da ynddo am iddo gael craig yn lle daear. Gall dyn dderbyn yr had goreu a gadael iddo bydru. Dichon dderbyn y dylanwadau mwyaf maethlon, ac etto fod yn amddifiad o ffrwythau bywyd sanctaidd. Nid felly y bu yn hanes gwrthddrych ein cofiant. Cadwodd yr argraffiadau cyntaf yn fyw yn ei galon, a meithrinodd ei deimladau crefyddol nes cael ei fywhau yn ysprydol ganddynt.

Hyd yma, yr oedd Bedydd a'r Bedyddwyr i raddau mawr yn ddyeithr iddo, oblegyd, fel y nodasom, nid oedd ei rieni mewn cydymdeimlad â'r Bedyddwyr, gan mai Eglwyswyr oeddynt, a dyna ydoedd teulu parchus y Cliftons. Wedi claddu ei dad, daeth ei fam at y Bedyddwyr, a chafodd ei bedyddio ar broffes gyhoeddus o'i ffydd yn y Gwaredwr pan oedd tua 60 oed, yn Llanfrynach, gan y diweddar Barch. J. Jerman, yr hwn fu yn weinidog am flynyddau yn Eglwys y Deri, Morganwg. Yr oedd ei feistr, Mr. Thomas Watkins, o'r Struet, yn aelod ffyddlawn a selog, mae yn debyg, gyda y Wesleyaid yn y dref, ac yn ewyllysio i Tom Price, yn o gystal ag ereill o'i weithwyr, fyned gydag ef at y Wesleyaid ar y Sabbothau; ond yr oedd ei feistres, Mrs. Watkins, yn Fedyddwraig egwyddorol a selog: yr oedd yn aelod ffyddlawn a dichlynaidd yn Mhorthydwr. Arferai Mrs. Watkins alw yn fynych yn nhy James Williams, grocer, Ship Street, sef tad Mr. James Williams, Tylorstown, y crybwyllasom am dano yn flaen-