Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

orol. Yr oedd Mrs. Watkins a Mrs. Williams o'r Shop yn gyfeillesau trwyadl, a theimlent ddyddordeb neillduol yn llwyddiant yr achos yn Mhorthydwr. Yr oedd y Williamsiaid yn ddiarebol am eu llettygarwch i weinidogion y Bedyddwyr, ac yno y byddent bob amser yn cartrefu pan yn ymweled â'r dref. Arferai Thomas Price fynychu y tŷ hwn hefyd, at y meibion, a derbyniai bob sirioldeb a charedigrwydd ganddynt. Hefyd, yr oedd dyn ieuanc parchus arall yn y dref yn arfer llawer â'r Williamsiaid, ac hefyd yn gwneyd cyfeillach â Price, o'r enw John Evans, yr hwn, wedi hyny, a gyrhaeddodd sefyllfa anrhydeddus yn y dref fel cyfreithiwr llwyddiannus, ac am yr hwn y cawn ddweyd gair etto yn mhellach yn mlaen.

Yr oedd Price yn awr yn codi yn fachgen ieuanc bywiog a phrydferth, ac yn addawol o ddyfodol dysglaer fel paentiwr hyfedr, ac fel y cyfryw, ofnai ei feistres iddo fyned yn rhydd a digrefydd, ac nid oedd hefyd yn teimlo yn ddedwydd nad allai lwyddo i'w gael gyda hi i fynychu yr Ysgol Sabbothol a'r cyfarfodydd yn Mhorthydwr. Yr oedd Mrs. Watkins yn berchen ar gynneddfau meddyliol cryfion, ac yr oedd yn hynod o benderfynol. Un diwrnod, dywedodd wrth y dyn ieuanc John Evans y carai yn fawr weled Tom yn dyfod gyda hi i Ysgol Sabbothol Porthydwr, a gofynodd iddo wneyd ei oreu i'w gael i ddyfod, "oblegyd," meddai, "yr wyf yn credu yn ddiysgog, os y ceisiwch chwi, y gellwch lwyddo." "O'r goreu, meddai Evans, "ymdrechaf," a llwyddodd yn ei ymdrech. Daeth Price i'r Ysgol a'r cyfarfodydd—at y Bedyddwyr, ac nid hir y bu cyn dangos awydd i ymaelodi gyda'r cyfenwad y gwnaeth gymmaint o waith iddo a throsto yn ystod ei fywyd gwerthfawr.

Gwelwn yma beth a allai gwragedd da ei wneyd drwy ymdrechion egwyddorol a phenderfynol, nid yn unig i ddwyn plant eu hunain at achos Mab Duw, ond hefyd eu gweision a'u morwynion, eu hadnabyddion a'u cymmydogion. Yr oedd y foneddiges hon wedi penderfynu gwneyd Bedyddiwr o Price, a'i gael, os gallai mewn unrhyw fodd, at y Gwaredwr, a choronwyd ei sêl a'i phenderfyniad clodus yn fendigedig, drwy iddi yn rhanol fod yn gyfrwng i ddwyn y Dr. enwog at y Ceidwad yn ei ddyddiau boreuol. Fel yr awgrymasom, nid hir wedi dyfod i fynychu Capel Porthydwr, y bu cyn myned i'r gyfeillach grefyddol, wedi penderfynu dylyn Crist yn y Bedydd, yn ol y dull apostol-