Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

aidd, fel yr arferai ddweyd yn fynych pan yn gweinyddu yr ordinhad ei hunan yn ystod ei weinidogaeth. Nid oedd bedyddio wedi bod yn y dref yn flaenorol er ys dwy flynedd. Yr oedd chwant mawr ar Thomas Price i gael ei fedyddio yn yr afon, eithr y penderfyniad oedd i fedyddio yn y bedyddfan yn y capel. Yr oedd y gweinidog ychydig yn erbyn bedyddio yn yr afon, a theimlai y prif ddiacon, Mr. Phillips, yn selog dros weinyddu yr ordinhad yn y bedyddfan, yn gymmaint ag fod yr eglwys wedi myned i'r draul o'i darparu. Yr oedd pump i'w bedyddio yr adeg hono, sef pedwar o frodyr ieuainc, ac un chwaer. Dangosai y brodyr o hyd awydd cryf i gael eu trochi yn yr Wysg, a dadleuent am gael hyny o fraint. Teimlai yr hen ddiacon parchus fod Thomas Price a'i gyfoedion yn cymmeryd gormod hyfdra arnynt fel hen frodyr, a rhoddodd anerchiad llym iddynt ar eu dyledswydd i ymostwng i'w blaenoriaid, ac ychwanegai ei fod yn ofni eu bod yn ofergoelus. Gobeithiai nad oeddynt yn credu fod rhinwedd neillduol yn nyfroedd yr Wysg. Gwyddai fod yr Indiaid yn credu yn gryf fod rhinwedd mawr yn afon y Ganges, ac ofnai eu bod hwythau yn debyg iddynt. Gyda golwg am eu barn am yr Wysg, dywedai y bachgen Price nad oeddynt fel yr Indiaid, "ac nid ydym," meddai, yn hygoelus gyda golwg ar rinwedd yr Wysg, ond yno y teimlaf y carwn gael fy medyddio." Daeth y dydd a'r adeg i gladdu y pump ymgeisydd yn y Bedydd, a pharotowyd gan yr eglwys i'r ordinhad gael ei gweinyddu yn y bedyddfan; ond cyn disgyn o'r gweinyddwr iddo, deallwyd fod ynddo ormod o ddwfr i'r bobl ieuainc oeddynt i'w bedyddio, a chododd yr hen ddiacon soniedig yr ystopell (plug) i fyny, er gollwng ychydig o'r dwfr allan, ac er ei fawr syndod, methodd ei ail-osod, oblegyd yn ddamweiniol, aeth carreg fechan i'r twll, a rhedodd y dwfr allan i gyd o'r bedyddfan. Felly, dan yr amgylchiadau, nid oedd dim i'w wneyd ond myned â'r bedyddiedigion, yn ol eu dymuniad, i'r Wysg, ac yno y cydgladdwyd hwy a Christ yn y Bedydd. Gweinyddwyd yr ordinhad gan y gweinidog, y Parch. John Evans, brawd i'r adnabyddus David Evans, Pontrhydyrun, a mab i'r enwog Evans o Maesyberllan. Trodd y pedwar bachgen allan yn bregethwyr, sef John Evans, Aberhonddu; y Parch. J. Williams, Llundain; y diweddar Barch. D. Evans, Dudley; a gwrthddrych y cofiant hwn.

Yn mhen ychydig amser wedi y bedydd hwn, cynnyg-