Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/301

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

adamant, lygur, aceat, amethyst, beryl, a jaspis. Dyma gyfres o 26 o nwyddau (gweler Ex. xxv. 1—7; a pen. xxiii. 17–19).

II. RHODDION COSTFAWR IAWN.

Dyma yr adeilad, yn ol ei faintioli, mwyaf costfawr ar wyneb y ddaear. Cofier mai bach oedd, ond yr oedd y draul yn fawr iawn; ond daeth rhoddion y bobl i fyny â'r angen. Fel enghraifft, cymmerwn un darn o'r dodrefn, sef y canwyllbren aur. Yn ol Deon Prideaux, yr oedd hwn, heb y gwaith, yn werth £7,013. Mae yr holl ddefnyddiau yn sefyll fel hyn:—Aur yn 4245 pwys, yn werth £198,347 12s. 6ch.; arian, yn 16,602 pwys, yn werth £45,266 5s.; pres yn 10,277 pwys, yn werth £513 17s.; defnyddiau ereill, £80,000; cyfanswm, 324,112 14s. 6ch. Ty i Dduw oedd hwn.

III. YR OEDD Y RHODDION YN GYFFREDINOL IAWN.

Yr oedd pob dosparth yn y gwersyll yn rhoddi, fel y dengys Ex. xXXV. 20—29. Dyma ddysgwyliad mewnol hynod o galonog. Darllen.

IV. MAE Y CWBL YN WIRFODDOL.

Darllen pen. xxxv. 5, 21, a 29. Calon ewyllysgar.

V. RHODDION PRYDLON.

Y cwbl yn mlaen llaw.

VI. YN FWY NA DIGON.

Danfonwyd allan orchymyn i atal rhoddion y bobl.

APPEL.—A gawn ni efelychu y bobl hyn:— 1. Yn nghyffredinolrwydd y cyfranu.

2. Yn y parodrwydd i weithio.

3. Yn eu haelionusrwydd i Dduw.

Amen.


Y CORN BYCHAN.

Daniel vii. 24– 27.

Mae y bennod hon yn cynnwys un o'r proffwydoliaethau mwyaf pwysig ag sydd i'w chael yn yr Hen Destament. Ni a gawn yma hanes cyfodiad a dinystr y pedair brenin-