Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/302

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iaeth fawr ag oedd wedi bod, ac yn bod, ac i fod yn ben ar yr holl fyd adnabyddus o ddyddiau Nimrod hyd gwymp Pabyddiaeth, tra y mae yma ddarluniad bywiog o deyrnasiad y saint ar y ddaear yn y dyddiau diweddaf.

Mae y proffwyd yn gweled pedwar o anifeiliaid yn codi i fyny o'r môr. Mae y cyntaf ar lun llew, yr ail yn debyg i arth, y trydydd yn ymdebygoli i lewpart, tra yr oedd y pedwerydd yn gyfryw nad oedd y proffwyd yn gallu rhoddi enw arno; yr oedd mor wahanol i bob bwystfil ag yr oedd ef wedi ei weled o'r blaen. Mae yn amlwg fod yma ddarluniad yn 1. O Ynherodraeth Babilon. 2. Ymherodraeth Media-Persia. 3. Ymherodraeth Macedonia. 4. Ymherodraeth fawr Rhufain. Mae y deg corn ar ben y bwystfil ag oedd yn cynnrychioli Rhufain, yn dangos y deg breniniaeth i ba rai y rhanwyd yr ymherodraeth fawr hon. Mor bell ag y deallaf, y rhai hyn ydynt,—1. Senedd a phobl Rhufain. 2. Y Groegiaid yn Ravena. 3. Y Lombardiaid. 4. Yr Hungariaid. 5. Yr Almaeniaid. 6. Y Ffrancod. 7. Y Byrganiaid. 8. Y Saraseniaid, yn Yspaen. 9. Y Gothiaid yn y rhan arall o Yspaen. 10. Y Saxoniaid yn Lloegr. Yr oedd yr ymraniad hwn wedi cymmeryd lle cyn diwedd y bummed ganrif o'r cyfnod Cristionogol.

Tra yn sylwi ar, ac yn rhyfeddu gweled y fath nifer o gyrn yn cyfodi ar ben yr un bwystfil, gwelodd y proffwyd gorn arall yn cyfodi—un bychan oedd hwn. Cyfodai ar ol y deg ereill, ac yn mysg y deg oedd o'i flaen. Mae hwn yn gwahaniaethu llawer oddiwrth y rhai ereill; ac er ei fychandra dechreuol, mae yn darostwng tri o'r cyrn ereill, ac yn myned a'u teyrnasoedd. Mae hwn yn gwneyd rhyfel yn erbyn saint Duw ar y ddaear; ond, y mae ei dymhor yn bennodedig—mae ei gwymp yn cael ei sicrhau, ac Eglwys y Duw byw yn dyfod i feddiant llywodraeth gyffredinol ar y ddaear.

Cymmerwn ddau beth dan ein sylw.

I. Y DARLUNIAD A RODDIR YMA O'R CORN BYCHAN.

II. Y FENDITH FAWR A DDAW I RAN EGLWYS DDUW AR DDINYSTR Y CORN BYCHAN.

I. Y DARLUNIAD A RODDIR YMA O'R CORN BYCHAN.

Mae yn ymddangos yn dra eglur i mi mai yr un gwrthddrych sydd mewn golwg gan Daniel yma ag sydd gan