Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/303

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Paul yn 2 Thes. ii. 3—10, dan yr enwau, y Dyn Pechod," a'r "anwir hwnw"; ac mai yr un gwrthddrych a elwir gan Ioan yn "annghrist." Mae y gwrthddrychau hyn yn cynnrychioli ac yn dadblygu cyfundraeth o grefydd gau a sefydlwyd yn y byd, ac sydd yn awr yn cael ei phleidio gan Babyddion y ddaear. Nid yw y desgrifiad yn gyfyngedig i berson, brenin, na Phab; ond y mae yn darlunio y gyfundraeth Babyddol, fel y mae wedi ei hegluro yn mhersonau a gweithrediadau y Pabau o ddyddiau y Pab Gregory I. hyd yn awr. Sylwn:—

1. Cyfodiad y Corn Bychan.—Mae dau beth yn cael eu llefaru am ei gyfodiad.

(1) Yr oedd wedi codi yn mhlith y deg corn ereill. Yna mae yn rhaid edrych am gyfodiad y gyfundraeth Babyddol yn mhlith y teyrnasoedd i'r rhai y rhanwyd Ymherodraeth Rhufain. Mae y rhan hon o'r broffwydoliaeth wedi ei wirioneddoli i'r llythyren, gan y gwyddis i'r Babaeth ddyfod i'r amlwg fel corn yn Rhufain ei hun, canolbwynt y deg brenhiniaeth dan sylw.

(2) Yr oedd i godi ar ol y deg corn ereill. Yma y mae yn iawn i nodi fod y corn yn golygu gallu gwladol y Pabau, ac nid eu hegwyddorion, yn eu hagwedd ysprydol. Yr oedd yspryd y Babaeth yn fyw er yn foreu iawn; ond fel gallu gwleidyddol, ni ddaeth i'r amlwg nes i'r deg corn ereill wneyd eu hymddangosiad. Yr oedd Yr oedd y deg corn cyntaf wedi eu sefydlu ar y bwystfil Rhufeinig cyn diwedd y bymthegfed ganrif; felly, o leiaf, gan' mlynedd cyn cyfodiad y corn bychan. Yna gwir yw iddo gyfodi yn eu plith, ac ar eu hol.

2. Nodweddau y Corn Bychan. Mae yma dri o bethau yn nodweddu y corn bychan.

(1) Yr oedd yn anırywio oddiwrth y deg ereill. Yr oedd gan y deg ereill awdurdod dymhorol yn unig; ond mae gan y corn bychan awdurdod dymhorol ac ysprydol—ar gyrff ac eneidiau—ar feddiannau a chydwybodau yn y byd hwn, ac yn y purdan draw. Heblaw hyn, efe yw brenin y deg brenin ereill yn yr holl faterion eglyswig ac ysprydol. Fel hyn y mae yn amrywio.

(2) Yr oedd iddo lygaid fel llygaid dyn. Mae hyn yn dangos treiddgarwch, rhagwelediad, ac yn aml, gyfrwystra