y Pabau; trwy hyn y maent wedi gorfaelu y fath ddylan- wad ag y maent wedi ei gael yn y byd.
(3) Yr olwg arno yn arwach na'r deg corn ereill. Mae y gwreiddiol yn golygu ei fod yn edrych yn “fwy cryf,” yn fwy nerthol, ac yn fwy ei impudence na'r lleill o'r cyrn. Mae hyn yn syn, ac yntau ond bychan. Ond mae hyn etto wedi ei lwyr gyflawni gan y Pabau yn eu hyspryd balch, hunanol, a thraws-arglwyddiaethol. Mae y Pab yn honi goruchafiaeth ar ei frodyr crefyddol—ar holl blant Duw, ac ar benau coronog y ddaear. Dysgwylia i bawb blygu iddo ef.
3. Gwaith y Corn Bychan.
(1) Darostwng tri o'r cyrn ereill. Yn y flwyddyn 715 mae Gregory II. yn diarddelu yr Ymherawdwr Leo Isaurieus, ac yn cymmeryd meddiant o'r awdurdod dymhorol. Yn y flwyddyn 741, mae Zachary yn diarddelu Chideric, ac yn cymmeryd meddiant o Ravena, ac yn dyfod yn frenin ar y wlad. Yn y flwyddyn 754, mae Stephen III., yn y gynghorfa yn Caercystenyn, yn cael ei gyhoeddi yn frenin. Dyma yn awr dri o'r cyrn, neu dri o'r deg brenin, wedi eu darostwng o flaen a chan y corn bychan, sef Ravena, Lombardy, a Senedd a Llywodraeth Rhufain. Golygfa ryfedd i Daniel oedd gweled un corn bychan yn diwreiddio tri chorn mwy; ond etto, mae hyn wedi ei gyflawni i'r llythyren.
(2) Traethu geiriau mawrion yn erbyn (neu fel) y Goruchaf. Mae fel y Goruchaf yn fwy cydnaws â'r gwreiddiol, ac yn ateb yn well i'r hyn a ddywed Paul yn 2 Thes. ii. 4. Mae y Pabau, o ddyddiau Gregory hyd yn awr, yn honi hawl i faddeu pechodau; agor a chau dorau y nefoedd ; rhwymo dynion i ufuddhau iddynt hwy yn hytrach nag i Dduw; cyhoeddi eu hanathema yn erbyn teyrnasoedd cyfain; ysgymuno tywysogion, a chollfarnu breninoedd y ddaear. Hona'r Pab oruchafiaeth ar bawb o'i gyd-ddynion; gwisga deitlau anaddas i'r un bôd meidrol, megys ei "Sancteiddrwydd," "Anffaeledig," "Ficer Duw," "Ar- glwydd Dduw y Pab," &c. Fel hyn, hona weithredoedd Duw, eistedda yn nheml Duw, a dengys mai Duw ydyw.
(3) Gwrthryfela yn erbyn saint Duw. Dyma etto ydyw yspryd Pabyddiaeth yn mhob oes o'r byd. Mae hyn wedi cael ei wneyd drwy gyfreithiau gormesol, anathemau, y