Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/305

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cleddyf, yr ystanc, y tân a'r ffagodau, y chwil-lysoedd damniol—mewn gair, trwy ladd a difa yn nihob modd bawb na fuasent yn plygu y lin i'r gyfundrefn Babyddol. Pwy a all feddwl heb deimlo y gwaed yn berwi am y Waldensiaid a'r Albigensiaid yn Piedmont, yr hen Gymry yn y dyddiau gynt, a'r afonydd o waed a dywalltwyd gan y Pabau er attegu y gyfundrefn a rag-ddangoswyd gan y corn bychan. Yspryd y grefydd Babaidd yw lladd a difa saint y Goruchaf; dyna oedd, dyna yw, a dyna fydd.

(4) Cyfnewid amseroedd a chyfreithiau. Gellir yn hawdd grynhoi hanes y Babaeth i'r dywediad, "Cyfnewid amseroedd a chyfreithiau." Nid oes un deyrnas yn Ewrop nad yw bys y Babaeth wedi bod yn ei chyfreithiau; a thrwy ei dylanwad mae cyfreithiau teyrnasoedd y byd wedi eu cyfnewid. Mae yn newid amseroedd, trwy neillduo a ffugsancteiddio dyddiau i'r sanct hwn a'r sanct arall. Mae hefyd wedi newid holl drefn y Beibl o addoli Duw; yn rhoddi pynciau newyddion i'w credu, a mil a mwy o orchymynion i'w cyflawnu.

4. Amser teyrnasiad y corn bychan.—Dywedir yma mai am amser, amseroedd, a rhan amser," y byddai iddo fodoli fel corn; hyny yw, fel un yn arfer gallu tymhorol a gwleidyddol. Mae hyn yn golygu blwyddyn, dwy flynedd, a hanner blwyddyn; mewn geiriau eglur, mae hyn yn golygu tair blynedd a hanner, yn ol cyfrif y proffwyd; sef cyfrif diwrnod am flwyddyn; yna bydd y cyfnod yn 1,260 o ddyddiau, neu yn ol ein cyfrif cyffredin ni, yn 1,260 o flynyddau. Mae hyn yn cyduno ag oed y bwystfil yn Llyfr y Datguddiad; tymhor y wraig i fod yn yr anialwch; ac amser y tystion i fod mewn sachlian a lludw. Yna mae yn amlwg mai tymhor breninol Pabyddiaeth ar y ddaear yw 1,260 o flynyddau.

5. Dinystr y corn bychan. (1) Amser ei ddinystr. Y pwnc y carem ei benderfynu yma yw, Y pryd y darfu i'r Babaeth hawlio ei gallu tymhorol a gwleidyddol; canys dyna adeg cyfodiad y corn bychan. Ffrwyth yr ymchwiliad mwyaf gonest a manwl o fy eiddo yw hyn :—Yn y flwyddyn 590 daeth Gregory I. i'r Gadair Babyddol yn Rhufain. Bu yn Yn y y swydd am bedair blynedd ar ddeg, ac yn ystod y tymhor hwn gwnaeth fwy na neb arall i barotoi y ffordd i godiad y corn bychan; ond bu farw cyn cyrhaedd yr amser. Yn y flwyddyn 606 daeth Boniface III. i'r gadair, a chyhoedd-