Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gorchwyl o baentio ball-room y Castle yn Aberhonddu. Cofus genym ei glywed yn adrodd am hyn wrth ei hen gyfaill, Jenkin Howell, Aberdar, mewn banquet a gynnelid yn yr ystafell er anrhydedd i Syr William Thomas Lewis, Mardy, Aberdar, yr adeg y gwnaed ef yn Uch Sirydd, ac nid tŷ cyffredin oedd y Castle. Hwnw, meddai y Dr., oedd y gorchwyl cyflogedig diweddaf gyda'i grefft.

Yr oedd ymdeithiad Thomas Price yn y byd Seisnigaidd, ac yn neillduol ei ddyfodiad o'r brif ddinas, yn rhoddi iddo safle a phoblogrwydd yn mhlith y myfyrwyr, oblegyd yr oedd Llundain mor ddyeithr a Kamschatka iddynt hwy. Teimlai Price ddyddordeb neillduol pan yn y Coleg i ad- rodd wrth ei gydfyfyrwyr, fel Columbus arall, hanes ei deithiau, y rhyfeddodau mawrion a'r golygfeydd gogonedd- us yr oedd wedi eu gweled mewn gwahanol fanau, a gwran- dawai y bechgyn gyda'r astudrwydd a'r mwynhad mwyaf arno.