Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD IV.

BYWYD ATHROFAOL Y DR.

Price mewn cylch newydd Cyfnod pwysig-Myned i'r coleg-Dysgu-Barn Spinther am addysg—Gibbon—Syr Walter Scott—Hunan-ymroad-Ennill parch fel myfyriwr-Ei fywyd athrofaol, gan Dr. Roberts-Ei gydfyfyrwyr-Barddoniaeth-Ei draethodau colegawl-Manylrwydd ei lafur-Y pynciau fyfyriodd-Meddwl parod-Ei boblogrwydd fel pregethwr-Ei gyd-fyfyrwyr yn ddynion o nod ac enw.

BELLACH yr ydym yn cael Price mewn cylch newydd, ac yn dechreu ar gyfnod pwysig iawn yn hanes ei fywyd. Er ei fod wedi troi fel y nodasom yn mhlith pobl efrydol yn llyfrgelloedd y Brif Ddinas, nid oedd y cylchoedd y bu ynddynt o'r blaen, fe ddichon, mor newydd a dyeithr iol iddo â'r bywyd colegawl; ac er ei fod fel gwenynen wedi ymroddi yn ddiwyd i gasglu ychydig wybodaeth tra y caniatäai manteision ac amgylchiadau iddo; etto, yn yr ystyr hwn, dyma'r cyfnod pwysicaf yn ei hanes, oblegyd credwn fod cyfnod addysg mewn ysgol neu athrofa o ganlyniad tra phwysig i fywyd dyfodol, ac yn gyffredin yn rhoi cyfeiriad priodol iddo a symbyliad i feddylgarwch, arsylwad, a phrofiad, yn ystod gyrfa y cyfryw fywyd. Gellir yn briodol ddweyd mai "Y plentyn yw tad y dyn," ac addysg sydd yn ffurfio y plentyn. Felly yn gywir y gellir dweyd fod dylanwad nerthol gan y wybodaeth a gasgla a'r hyfforddiant a dderbynia yr efrydydd ieuanc yn ystod ei yrfa golegawl, oblegyd yn gyffredin yr hyn ydyw yn, ac yn gadael yr athrofa a ellir dysgwyl ei gael drwy ei holl fywyd.

Fel y sylwyd yn flaenorol, nid oedd Price pan yn myned i'r coleg wedi cael ond ychydig addysg, am fod ei fanteision i hyny yn brin, ac nid oes genym hanes ei fod wedi cael, fel y mwynheir yn aml y blynyddau hyn gan ein hymgeiswyr i'r colegau, ysgol ragbarotoawl, ac nid oedd wedi cael neb yn neillduol i'w roddi, fel y dywedir, ar ben y ffordd; ond chwiliodd am dani drwy ymroad egniol i ddiwyllio ei feddwl ei hunan, a chafodd dderbyniad croesawus i un o hen sefydliadau addysgol mwyaf buddiol ac anrhydeddus y