Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dr. Price a dal yr ymosodiad; rhoddodd her i'r ymosodwr, a bu gornest frwd rhyngddynt am amser lled hir un hwyrddydd haf. Beth bynag am ddoethineb y mudiad, profodd Dr. Price ei fod yn meddu ar nodweddion angenrheidiol dadleuydd llwyddiannus; ac nid hir y bu y gwr dyeithr cyn gadael y dref, heb ddychwelyd yno mwy tra y bum I yn yr athrofa; pa fodd y bu hi ar ol hyny nis gwn. Tueddai Dr. Price i fod yn Galfin lled uchel, fel y dengys ei awydd pender. fynol i gadw y braslun o gyffes ffydd a ymddengys o flwyddyn i flwyddyn ar ddechreu Cylchlythyr Cymmanfa Morganwg. Am a wn I, credai am "brynedigaeth neillduol;" nad oedd a fyno Aberth y Groes â neb ond â'r etholedigion. Er hyny, pregethai Efengyl mor llydan â'r byd oll; ac yr oedd ei appeliadau a'i gymhellion at y gwrandawyr mor uniongyrchol a thaer â neb o honom. Gall hyn ymddangos i rai o honom yn annghyssonadwy; ond yr oedd efe yn hyn yn debyg i bregethwr mawr a llwyddiannus y Brif Ddinas, Mr. Spurgeon.

"Daeth y nodwedd Galfinaidd ynddo i'r golwg pan oedd yn yr athrofa. Rai blynyddoedd yn gynnarach nâ hyny, ymgyfathrachodd brodyr enwog yn y weinidogaeth yn Siroedd Mynwy a Morganwg, mhlith y rhai yr oedd y pregethwr enwog a meddylgar, y diweddar Barch. James Richards, Pontypridd. Nid oedd un amcan amheus gan y brodyr hyn, ond cododd eu hunoliaeth o debygrwydd meddwl a chwaeth; ond cynnyrchodd yr undeb amheuaeth yn meddyliau brodyr da ereill fod yma amcan i'w diystyru hwy; ac o dipyn i beth aeth yr amheuaeth hon yn deimlad byw, a bu yn achos o ymryson mawr. Achosodd bellder teimlad rhwng brodyr da, a gelwid y dosparth cyntaf yn "Wyr y Clwb," a rhengid ereill yn mhlith eu gwrthwynebwyr. Edrychid ar y cyntaf fel Fulleriaid anuniongred, os nad yn rhyw bethau gwaeth nâ hyny; ac edrychai eu pleidwyr ar y dosparth arall fel rhai yn dal yr hen athrawiaeth iachus. Yr oedd dylanwad yr ymraniad hwn wedi gweithio ei hun i blith y myfyrwyr cyn i mi fyned i'r athrofa, a'r myfyrwyr, amryw o honynt, yn Glubmen, ereill yn Anti-Clubmen, ac ereill heb ogwyddo y naill ffordd na'r llall. Dr. Price oedd y prif ddyn yn mhlith yr ail ddosparth crybwylledig; a mawr oedd y sêl a ddangosai wrth wrthwynebu Gwyr y Clwb" ac amddiffyn eu gwrthwynebwyr. Gan fod yr ychydig fyfyrwyr o'r Gogledd oeddynt yn yr athrofa ar y pryd yn perthyn i'r dosparth cyntaf, i hwnw y bwriais i fy nghoelbren mor bell ag y cymmerais ran o gwbl yn yr ymryson. Er mor fach ac anaml ei thrigolion yw Cymru, erys rhyw glannishness rhyfedd i ffynu yn ein plith er cywilydd a cholled i ni. Yr wyf yn credu y byddai yn fanteisiol i ni, fel cenedl, pe byddai modd i ni annghofio fod