Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dehau a Gogledd yn bodoli. Mae gormod o duedd ynom i farnu nad oes dim daioni ond yn ein rhanbarth ein hunain. Y mae peth daioni yn y byd oll, a'r Bettws hefyd; a chredu yr wyf fod daionusrwydd a diffygion y Dehau a'r Gogledd rywbeth yn gyfartal.

"Mor bell ag yr wyf yn cofio ar hyn o bryd, dyma y prif bethau a nodweddent fywyd Dr. Price; ond dylwn ychwanegu ei fod yn fyfyriwr diwyd ac ymroddgar, yn myned trwy ei waith mewn modd derbyniol gan yr athrawon, yn gwneyd defnydd priodol o'i amser heb ofera dim o hono, yn achos o lawer o ddyfyrwch i'w gyd-fyfyrwyr, yn gymdeithaswr rhagorol a derbyniol yn derbyn ceisiadau parhaus am ei wasanaeth ar y Sabbothau, ac yn cadw y drws yn agored i fyned eilwaith i'r manau yr elai. O'r diwedd, cyn terfyn ei yrfa athrofaol, derbyniodd alwad gynhes o Aberdar; ac felly, pan ddaeth yr amser iddo adael yr athrofa, yr oedd y drws yn agored i'w dderbyn yno. Yr oedd y lle hwn yn ei daro i'r dim, ac yntau yn taro y lle fel yr allwedd i'r clo. Aethum i'r cwrdd ordeinio yn Aberdar, yr hwn a gynnelid yr wythnos ar ol y Nadolig, 1845 Yn y cwrdd hwnw y cefais y fraint o glywed y diweddar bregethwr enwog, y Parch. James Richards, Pontypridd, am y waith gyntaf erioed. Er mai y gwaith arferol sych o ddysgu dyledswyddau yr eglwys at ei gweinidog oedd ganddo braidd na chodai gwrid yn fy ngwyneb o herwydd fy mod erioed wedi cynnyg ar y gwaith o bregethu, gan mor swynol, medrus, gafaelgar, galluog, a dyddorol yr oedd yn pregethu. Ychydig feddyliais y pryd hwnw y buaswn byth yn olynydd iddo yn Mhontypridd.

"Nid oedd Aberdar yn ddim y pryd hwnw o'i chymharu â'r hyn ydyw yn awr. Yr adeg hono yr oeddynt yn gwneyd y gledrffordd o'r Bason i Aberdar: ac wrth y gwaith yn gwneyd pont goed i gario y gledrffordd dros ryw nant gerllaw lle y saif marchnadfa Aberdar, y cwrddais y waith gyntaf, i'w adnabod â'r Parch. W. Lewis, cyn-weinidog yr eglwys yr oedd Dr. Price ar gael ei ordeinio yn fugail arni. Nid oedd nemawr o dai y pryd hwnw rhwng y bont grybwylledig hyd at y capel yn yr hwn y cynnelid y cwrdd ordeinio; a rhyw hen adeilad annhrefnus a llwydaidd, hynafol yr olwg arno oedd y capel. Ond cafwyd y right man in the right place yn Dr. Price. Yr oedd y lle i gynnyddu, a chymmerodd hyny le yn fuan; ac yr oedd angen am ddyn o'i dalent a'i egni ef i ddeffroi a thynu sylw, magu a meithrin, arwain a chyfarwyddo, y dyfodiaid oedd yn dyfod i'r lle; a gwnaeth hyny er anrhydedd iddo ei hun, lles yr ardal, a chynnydd crefydd.

"Wedi nodi rhai pethau yn ei hanes athrofaol am y ddwy flynedd y bum yn gydfyfyriwr ag ef, a'i arwain fel hyn i Aberdar, yr wyf yn gadael y gwaith o ddarlunio ei lafur yno i rai a ŵyr yn well am dano nâ mi, oblegyd collais I olwg arno i fesur pell o amser ei sef-