Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ydliad yn niwedd 1845 hyd ddechreu 1859, pan y symmudais i Bontypridd. Cefais ynddo o hyny hyd yn awr yr hyn a ddysgwyliais gael oddiwrth fy adnabyddiaeth o hono yn yr athrofa, sef gweithiwr difefl, cyfaill gwresog, cynghorwr doeth, a chynnadleddwr medrus."

Fel y crybwyllasom yn barod, yr oedd yn y coleg yr adeg y derbyniwyd Thomas Price iddo un-ar-ugain o fyfyrwyr; mhlith y cyfryw yr oedd Mr. John Evans, yn awr yn cyfreithiwr yn Aberhonddu, yr hwn hefyd a fedyddiwyd yr un adeg â Price, fel y nodasom o'r blaen; Dr. B. Evans, Castellnedd; W. Hughes, Glanymor, Llanelli; W. Price, America; James H. Evans, Aberhonddu; John Jones; John W. Todd, D.D., Sydenham; Evan Thomas, Casnewydd; Nathaniel Thomas, Caerdydd; Dr. J. R. Morgan (Lleurwg), Llanelli; Rees Davies, Penyfai; Dr. Edward Roberts, Pontypridd; T. Lewis, Risca; Daniel Morgan, Blaenafon, &c. Cyfododd bron yr oll o honynt i enwogrwydd a bri mawr, a gwnaethant wasanaeth annhraethadwy i achos y Gwaredwr. Mewn pryddest goffadwriaethol naturiol a phrydferth ar ol ei hen gyfaill a'i gydfyfyriwr hoff, Thomas Price, cana yr enwog a'r athrylithgar fardd-bregethwr, Ddr. Morgan (Lleurwg), fel y canlyn am ei dymhor colegawl:—

"Chwech a deugain o flynyddau
'Nol fe welid mewn pur hedd
Un-ar-ugain o wyr ieuainc
Iach eu bron a llon eu gwedd
Yn Athrofa y Bedyddwyr,
Pontypwl, yn parotoi
I'r weinidogaeth Efengylaidd,
A phob un yn llwyr ymroi.

"Thomas Price oedd un o honynt,
Nid y lleiaf yn eu mysg
Am ddysgleirdeb ei dalentau,
Ac am ddawn i dderbyn dysg;
A chyn gadael yr athrofa,
Daeth yn enwog drwy y wlad
Fel cymmeriad difrycheulyd,
Ac fel Efengylydd mad.

"Llawer tro a welsom yma
Rai'n dod fewn yn iach a llon,
Rhai yn brudd yn gorfod 'madael
A saeth angeu dan eu bron;