Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond yr un-ar-ugain gawsant
Dreulio i ben eu tymhor gwiw,
A myn'd allan i'w gorsafoedd
I was'naethu dyn a Duw."

Yr oedd Dr. Price yn nodedig am ei fanylrwydd a'i drefnusrwydd gyda'i holl waith yn ystod ei fywyd, fel y cawn ddangos etto yn helaethach wrth fyned yn mlaen. Yr oedd, ni a gredwn, wedi mabwysiadu cynlluniau effeithiol, ac wedi arfer ei hun i hyn yn nechreuad ei fywyd cyhoeddus. Llafuriodd yn galed mewn darllen, myfyrio, a phregethu cyn myned i'r athrofa, bu yn ddiwyd iawn tra yno, a pharhaodd yn ei efrydiaethau a'i lafur yn egniol a diflino hyd ei fedd. Wrth edrych dros ei lyfrau, y rhai a gynnwysant ei draethodau a'i ysgrifau efrydol tra yn y coleg, dwy gyfrol o'r cyfryw a ddynodir gan y Dr. enwog ar yr amlen, The College Essays, a ymddiriedwyd i ni gan ei hoffus ferch, Miss Emily Price, cawn olwg led gyflawn arno, yr hon a'n galluoga i ffurfio barn deg am dano fel myfyriwr yn ei drefnusrwydd, ei fanylrwydd, a'i ymlyniad diysgog wrth y pynciau yr ymdriniai â hwynt.

Dywedai arlunydd enwog unwaith wrth wneyd nodiad am ei fanylrwydd a'i ofal neillduol gydag un o'i ddarluniau, "I paint for eternity." Rhywbeth yn debyg, gallwn feddwl, y teimlai Thomas Price gyda'i lafur fel efrydydd yn Ngholeg Pontypwl. Yr oedd yn fanwl, trefnus, a dyhyspyddol gyda'i waith, yn neillduol pan yn ysgrifenu ei draethodau ar brif bynciau duwinyddiaeth. Llafuriai fel pe y teimlai ei fod yn gwneyd gwaith am fywyd, ac fod cyssylltiad rhwng y gwaith am fywyd hwnw â thragwyddoldeb, ac felly yr oedd. Cynnwysa y cyfrolau a nodwn ysgrifau cyflawn ar "Y Sectau Iuddewaidd," "Y Samariaid," "Y Cyfammod Newydd," "Y Messiah," "Cristionogaeth yn ei gwahanol arweddion," " Yr Ymgnawdoliad,” Adgyfodiad y Meirw," "Cyfiawnhad," "Dylanwad yr Yspryd Glân," "Eglwys Dduw: ei hanes a'i swyddogaethau," "Yr Ysgrythyrau Sanctaidd," "Y Gwyrthiau," yn nghyd â llawer o bynciau buddiol a phwysig ereill. Gwir fod y pynciau hyn yn brif feusydd llafur yr efrydwyr yn yr athrofeydd gwahanol, ac yn hanfodol i fyfyrwyr Cristionogol ydynt yn ymbarotoi i waith pwysig y weinidogaeth Efengylaidd; etto, nid yn aml y gwelir olion cymmaint o lafur gonest ac egnion diflino ag a welir yn ysgrifau yr efrydydd ieuanc, Thomas Price. Hefyd, gallwn gredu ei fod yn gosod