Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pris uchel arnynt, gan ei fod wedi eu cadw yn ei feddiant mor ofalus am dros ddeugain mlynedd.

Hefyd, meddai Price feddwl cyflym a pharod iawn. Nid oedd efrydu yn orchwyl anhawdd iddo. Gallai ddadrys llawer o'r dyrysbynciau mwyaf gyda rhwyddineb mawr. Gosodai ei gydfyfyrwyr ef ar brawf yn fynych gyda'u gwersi yn y coleg. Clywsom un o honynt yn adrodd fod Lleurwg unwaith, er ei osod ar brawf, a chael, fel y meddyliai, ychydig ddyfyrwch, wedi ysgrifenu gofyniad caled iddo, a'i yru drwy ddwylaw y myfyrwyr o un i un yn y dosparth hyd y cyrhaeddodd Price. Edrychodd arno, ymaflodd yn ei ysgrifell, ac ysgrifenodd atebiad cyflawn a boddhaol iddo, fel pe buasai wedi myfyrio y mater yn drylwyr am amser maith. Yr oedd y gallu rhagorol hwn yn fanteisiol iawn iddo yn y coleg, a phrofodd felly iddo drwy ei oes.

Yn ystod ei dymhor athrofaol ennillodd Thomas Price serch diffuant ac ymddiriedaeth drylwyr ei gydfyfyrwyr. Perchid ef yn fawr gan ei athrawon dysgedig, ac edrychent arno fel un fuasai yn debyg o droi allan yn addurn a chlod i'r athrofa, gan y credent fod ynddo alluoedd neillduol i wneyd gwaith mawr, a'i fod yn llawn o elfenau gwir boblogrwydd. Cafodd yr athrawon parchus a'r myfyrwyr brofion buan wedi ymsefydliad Price yn y weinidogaeth mai nid un cyffredin ydoedd. Yr oedd hefyd yn ystod ei fywyd athrofaol wedi codi i sylw yr eglwysi fel bachgen da ac efrydydd teilwng. Edrychent arno fel pregethwr bywiog a phoblogaidd. Caffai wahoddiadau mynych i bregethu mewn eglwysi pwysig, ac i ba le bynag yr elai yr oedd ei yspryd caredig, ei deimladau da, a'i sirioldeb naturiol, nid yn unig yn sicrhau iddo barch amserol, ond hefyd yn ennill iddo gyfeillion mynwesol a pharhaus. Cadwai ei olwg ar y dyfodol drwy y presenol. Nichymmerai fantais ychwaith ar ei gydfyfyrwyr na neb arall yn herwydd ei fod yn ffafrddyn gan yr eglwysi, ac yn ennill poblogrwydd. Yr oedd gormod o'r gwir ddyn ynddo i ymchwyddo ac ymgolli mewn hunanoldeb. Yr oedd Price yn Sais da iawn yn myned i fewn i'r coleg. Pregethai Saesneg gyda rhwyddineb mawr. Rhagorai yn hyn ar ei gydfyfyrwyr yn gyffredin. Diau fod llawer gan londer ei yspryd a'i serchawgrwydd i wneyd â'i boblogrwydd yn ystod ei yrfa golegawl, oblegyd yr oedd y rhan luosocaf o'i gydfyfyrwyr yn nodedig am eu gallu a'u dawn i bregethu. Graddiodd pump o honynt yn Ddoctoriaid, a llanwasant yr urddeb yn