Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

anrhydeddus. Nid ydym yn gwybod am un cyfnod yn hanes colegau y Cyfundeb Bedyddiedig yn y Dywysogaeth pan y bu gyda'u gilydd gynnifer o ddynion ieuainc yn yr un coleg wedi codi mor uchel fel pregethwyr a gweinidogion y Gair, wedi llanw cylchoedd pwysig yn anrhydeddus yn eu cyfenwad, ac hefyd wedi gwneyd gwasanaeth anmhrisiadwy mewn gwahanol gylchoedd i'w gwlad a'u cenedl. Ni raid i ni er profi hyn ond nodi enwau yr Efengylydd sylweddol, y Parch. W. Hughes, Glanymor, Llanelli; y diweddar anwyl Hybarch Ddr. Benjamin Evans, Castellnedd, yr hwn fu am gynnifer o flynyddoedd yn ysgrifenydd manwl a gofalus Cymmanfa y Bedyddwyr yn Morganwg, ac hefyd a ysgydwodd drwy ei hyawdledd a'i ddoniau Gymru yn ei bregethau; y Cristion dysglaer a'r pregethwr poblogaidd, y diweddar Barch. Nathaniel Thomas, Caerdydd; y diweddar alluog Barch. Daniel Morgan, Blaenafon; yr enwog Ddr. Todd; yr hynafiaethydd medrus, y Parch. Thomas Lewis, gynt o Risca, ac awdwr Esponiad y Teulu; y llenor aeddfed a'r ysgrifenwr enwog, y Parch. Ddr. Roberts, Pontypridd; yr hyawdl fardd-bregethwr, yr Hybarch Ddr. Morgan (Lleurwg), Llanelli; a thywysog pregethwyr Cymru, yr enwog Hybarch Evan Thomas, Casnewydd; ac ereill o gyffelyb ddefnyddioldeb ac enwogrwydd a ellid eu nodi. Bu y rhai hyn oll yn gewri o bregethwyr, ac y mae y rhai sydd yn aros o honynt felly etto, ond safai yr enwog Ddr. Price yn fawr yn y coleg ac yn mhob lle arall yn mhlith y mawrion hyn: yr oedd fel tywysog yn mhlith y tywysogion. Cadwodd y safle hwn, yn neillduol fel gweithiwr diwyd ac mewn defnyddioldeb cyffredinol, hyd ei fedd.