Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

symmud o Hirwaen i Aberdar, ac wedi ymaelodi yn Mhenpound. Gyda Mr. Evan Davies, hefyd, yr adeg hono yr oedd y pregethwyr yn aros. Gweithiai Evans, Hirwaen, ychydig gyda'i hen ddiacon dros Price, ac ni bu ei lafur yn ofer. Un tro pan yr oedd Price yn supplyo yn Mhenypound, arosodd yno dros y Llun, ac yn yr hwyr gofynodd Evan Davies iddo a ddeuai efe gydag ef i'r cwrdd gweddi, a gynnelid y noson hono yn nhŷ un o'r aelodau. Atebodd Price ar unwaith y deuai gyda phleser mawr, ac aeth. Yr oedd y bobl yn falch i'w weled ynddo. Pan ddaeth yn adeg dechreu, ymaflodd Price yn y Beibl, darllenodd bennod, a threfnodd y cyfarfod mor ddeheuig a naturiol a phe ba'i y gweinidog. Ar ol y cwrdd, dywedodd yr hen frawd Thomas Dyke wrth Evan Davies, "Dyma'r dyn i ni, fachgen; y mae y dyn iawn wedi d'od o'r diwedd." "Yr ydych yn gywir yr un farn a minau," meddai Evan Davies, ac aeth yn garu brwd ar unwaith rhwng y llanc a'r eglwys, ac hapus fu y briodas a'r bywyd maith a ganlynodd.

Adroddai yr anfarwol Ddr. Price helyntion ei ddyfodiad cyntaf i Aberdar wrth y brawd caruaidd a thyner Thomas Joseph, Ysw., Gwydr Gardens, Abertawe, gynt Tydraw, Blaenycwm, yn y flwyddyn 1885. Yr oedd Mr. Joseph wedi dyfod i'r Eisteddfod Genedlaethol gynnelid y flwyddyn hono yn Aberdar, ac arosai gyda ei anwyl ferch, Mrs. Dr. Hutchinson, Glanynys, am tua phythefnos. Yn ystod y cyfryw amser, gwahoddwyd y Dr. i dreulio prydnawn gyda y boneddwr parchus, Mr. Joseph, a dyna fu gan mwyaf yn bwnc eu hymgomiad, "Hanes boreuol Aberdar a dyfodiad yr hybeirch Ddr. B. Evans a Dr. T. Price i'r dyffryn.' Addefai Dr. Price mai trwy ddylanwad y Dr. Benjamin Evans yr oedd efe wedi ei gyflwyno i sylw yr Eglwys yn Mhenypound gyntaf. Bu Price yn pregethu fel supply o'r coleg amryw weithiau yn y dyffryn, ac ystyrid ef gan yr eglwysi yn bregethwr poblogaidd, ac yn ddyn ieuanc yn llawn o addewid. Yn yr un flwyddyn ag y rhoddodd y Parch. W. Lewis ei ofal gweinidogaethol i fyny yn Aberdar, rhoddwyd galwad unfrydol a charuaidd i Thomas Price, yr hon a dderbyniodd yn galonog a ffyddiog, wedi ystyriaeth ddwys ac ymgynghoriad dyladwy â'i gyfeillion ac â'i athrawon parchus. Ymadawodd trwy ganiatad cyn terfyniad y flwyddyn ychwanegol estynwyd iddo. Yn mynegiad y Coleg am Gorphenaf, 1844, cawn a ganlyn:—"Mr. Thomas Price sought and obtained the