Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

consent of the Committee to leave at Christmas, about six months before the expiration of his fourth year, in order to take the charge of a destitute church at Aberdare, Glamorganshire, where a rapidly increasing population invited the labours of an active and devoted minister." Dechreuodd ar ei waith yn 1845, a neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth ar y dydd cyntaf o Ionawr, 1846. Yn y Bedyddiwr am Chwefror, 1846, cawn hanes Cyfarfodydd y Sefydliad wedi ei ysgrfenu gan ei hen gyfaill mynwesol Lleurwg, yr hwn sydd fel y canlyn:

URDDIAD

Mr. T. P. Price, diweddar fyfyriwr yn Athrofa Pontypwl, wedi derbyn galwad unfrydol oddiwrth yr eglwys Fedyddiedig yn Aberdar, Swydd Forganwg, a gydnabyddwyd yn weinidog arni dydd Iau, Ionawr 1af, 1846. Y myfyrwyr a'r gweinidogion a weinyddasant ar yr achlysur dyddorawl oeddynt y canlynolion:—Yr hwyr blaenorol, darllenodd a gweddiodd Mr. J. P. Jones, myfyriwr, a Mr. D. Davies, Wauntrodau, a B. Williams, Tabernacl, Merthyr, a bregethasant.

Dydd Iau, am 10, dechreuwyd y cyfarfod gan Mr. Evans, Hirwaen; Mr. William Jones, Caerdydd, a draddododd araeth ar Natur Eglwys Crist; yna Mr. Price a draddododd gyffes ei ffydd, yr hon oedd fer, cynnwysfawr, ac orthodox; a dyrchafodd Mr. Jones yr urdd weddi. Mr. Thomas Thomas, A.D., Coleg Pontypwl, a bregethodd i'r gweinidog ieuanc, a Mr. J. Richards, Pontypridd, a areithiodd ar ddyledswyddau yr eglwys tuag at y gweinidog.

Am 2 darllenodd a gweddiodd Mr. Thomas Evans, myfyriwr; a Meistri JJ. Saunders, Pontypwl, T. Thomas, Pontypwl (yn Saesneg), a J. Jones, Seion, Merthyr, a bregethasant.

Am 6, darllenodd a gweddiodd Mr. Edward Roberts, myfyriwr; a Meistri D. Jones, Caerdydd, a W. R. Davies, Dowlais, a bregethasant. Yr oedd hefyd y myfyrwyr canlynol yn bresenol yn yr urddiad o Athrofa Pontypwl, gyda y rhai a enwyd uchod, sef Mri. Thomas Williams, John Morris, J. R. Morgan (Lleurwg), a Lot Lee. Pan ddywedaf i ni gael arwyddion eglur fod Arglwydd Dduw byddinoedd Israel yn gwenu ar ein cyfarfod, ac wedi gweled fod genym brif ddoniau a galluoedd Bedyddwyr Cymru yn pregethu, hawdd gan y darllenydd gredu i ni gael cwrdd da. Y mae Mr. Price wedi ymsefydlu yn Aberdar o dan amgylchiadau cysurus iawn, y mae gwaith mawr o'i flaen, a gwyddom fod ganddo yntau galon i weithio. Nis gallaf roddi heibio heb anerch fy anwyl gyfaill yn bersonol.