Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cawraidd mewn ymgyrch â'u gilydd. Y rhai hyn oll oeddynt yn ychwanegu at amrywiaeth, ac felly yn mwyhau tlysni a gogoniant, y dyffryn. Gwelid ambell balasdy gorwych yma a thraw, yn ymddangos yn urddasol fel brenin anneddau gwasgarog y cwm. Yr amaethdai mawrion a welid yn gyffredin wrth wadnau y mynyddau a thraed y bryniau yn ngwahanol gyfeiriadau y dyffryn. Prydferth oedd yr olygfa ar y bythynod gwyngalchedig welid ar lechwedd y bryn, y pant, a'r uchelfan. Cestyll y gweithwyr oeddynt, ac er eu bod yn is eu penau ac yn llai eu maint nâ'r tyddynod a'r palasdai, etto, hoffent hwy, a chanai llawer un mewn alaw bêr iddynt yn ngeiriau y bardd:—

"Mae 'mwthyn fel yr eira gan fynych liwiad calch,
A'i gylchion oll yn daclus; wyf fyth o'i drefnu'n falch,
Mae o'r tu fewn yn gynhes, yn syber, glân, a syw,
Yn annedd hardd gysurus, gall brenin ynddo fyw."

Yn yr adeg hono yr oedd Aberdar yn bentref cymharol fychan, a thrysorau anmhrisiadwy y dyffryn a'r mynyddoedd i raddau yn guddiedig; llawer o'r trigolion yn amaethwyr bychain ond cyfrifol—amryw o honynt yn preswylio ar eu tiroedd eu hunain, tra yr oedd ereill yn dal rhwymysgrifau dros fywyd ar ardreth fechan—y peth nesaf i ddim. Ond yn fuan daeth cyfnewidiad ar bethau; mewn gwirionedd, yr oedd y cyfnewidiad wedi dechreu cymmeryd lle. Yr oedd Aberdar eisoes mewn cyflwr o draws—symmudiad. Yr oedd amryw weithiau glo wedi dechreu cael eu hagor. Er na chynnyddodd y gweithiau hyn fawr yn y plwyf oddieithr ychydig leflau a nifer bychan o byllau i ddiwallu angenrheidiau gweithfeydd haiarn Hirwaun hyd y flwyddyn 1837, pryd y dechreuodd T. a W. Wayne, Ysweiniaid, agor gwaith mawr yn Nghwm Nantygroes, yr hwn oedd y gwaith glo môr cyntaf yn y plwyf. Hyd yr adeg hono ni weithid y glo yn y cwm ond at wasanaeth y gweithiau haiarn. Y blynyddau canlynol agorodd Mr. Powell ei byllau ar ystâd y Dyffryn; ac ar ol hyny agorodd Mr. D. Davis, Ysw., Hirwaun y pryd hwnw, wedi hyny Blaengwawr, waith glo môr rhagorol ar dir Blaengwawr, a dechreuwyd anfon glo ymaith yn mis Hydref, 1844. Yn ganlynol i hyny agorodd Mr. Thomas, Waunwyllt, waith glo ar dir Lletty Siencyn; wedi hyny agorodd Nixon ei waith glo ar dir y Werfa, yn cael ei ddylyn gan Mr. D. Williams, Ynyscynon, gydag agoriad ei waith glo ar dir Ynyscynon: Mri. Sheppard,