Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Evans, a Morris, yn Nghwmaman; a Mr. Thomas J. Joseph yn rhandir Llwydcoed. Yn Rhagfyr, 1844, dechreuwyd pwll glo arall gan Mr. Powell heb fod yn mhell oddiwrth weithiau y Gadlys, a daeth y glo cyntaf i fyny yn 1846. Ar y 15fed o Fawrth, 1845, dechreuodd Mr. Crawshay Bailey, Ysw. (A.S. dros y Casnewydd, Mynwy, y pryd hwnw), suddo pwll glo yn agos i'r lle y bwriedid codi gweithfeydd haiarn Aberaman. Gyda'r gweithiau glo mawrion a lluosog oeddynt yn cael eu hagor yn y dyffryn yn y cyfnod a nodwn, yr oedd hefyd weithiau tân ac alcan wedi ac yn cael eu codi. Yr oedd gweithiau haiarn Abernant a'r Llwydcoed wedi eu prynu gan Mr. Richard Fothergill a'i Gyf., y rhai a eangwyd yn raddol y naill flwyddyn ar ol y llall, hyd o'r diwedd y daeth y cwmni yn alluog i gyflogi dros 4,000 o weithwyr. Yr oedd gweithiau haiarn y Gadlys yn cael eu cario yn mlaen gan Mri. Wayne a'i Gyf., ac yn 1850 cychwynasom y gwaith Alcan, yn yr hwn y cyflogid nifer luosog o weithwyr. Mawrth y 14eg, 1845, dechreuwyd gwaith haiarn ar dir Aberaman gan Mr. Crawshay Bailey.

Gan fod Aberdar ar gynnydd mor ddirfawr yn masnach y glo môr, aeth y gamlas, yr unig gyfrwng trosglwyddiad nwyddau o Aberdar i Gaerdydd, y porthladd agosaf, yn rhy fach i wneyd y cludiad; ac yn y flwyddyn 1845 dechreuwyd gwneyd Cledrffordd Dyffryn Aderdar, ac ar y dydd cyntaf o Awst, 1846, yr agorwyd hi i drafnidiaeth. Cyrhaeddai hon o Heol Melin, Llwydcoed, hyd y Basin Isaf, tuag wyth milldir, lle y cyssylltai â'r llinell a redai o Gaerdydd i Ferthyr. Creodd y gledrffordd hon adfywiad mawr yn masnach y plwyf, ac yr oedd yn gyfleusdra rhagorol i deithwyr. Ar yr 28ain o Awst, 1847, dechreuwyd gwneyd Cledrffordd Cwm Nedd, yr hon a elwid yn Gledrffordd Dyffryn Nedd; a phrofodd wedi ei hagor, yn gystal a Chledrffordd y Taff, o ddefnyddioldeb a mantais annhraethadwy i'r cylchoedd yn gyffredinol, fel y gwelir oddiwrth y ffigyrau canlynol, y rhai a ddangosant yn eglur gynnydd enfawr trafnidiaeth yn y dyffryn. Yn y flwyddyn 1815, gwnaed o haiarn yn y plwyf i gyd 20,800 o dynelii; yn y Åwyddyn 1853, gwnaed gan yr Aberdare Works yn unig, 35,202 o dynelli; gwneuthuriad o haiarn yn yr holl blwyf yn y flwyddyn 1841 oedd, 25,000 o dynelli; yn y flwyddyn 1852, 82,000 o dynelli. Anfonwyd allan o lo yn 1841, 12,000 o dynelli; yn 1852, 500,000; cyfanswm 1860, 1,745,813 o. dynelli; yn 1866, 2,188,571. Codwyd yn