Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mhlwyf Aberdar o lo yn y blynyddau o 1870 hyd 1884 dros un filiwn ar ddeg ar hugain o dynelli, yn gwneyd ar gyfartaledd dros 2,000,000 yn flynyddol. Tra yn ymwneyd ag ystadegaeth, dichon na fydd ffigyrau yn dangos cynnydd poblogaeth Aberdar ddim yn annyddorol yma.

Blynyddau Poblogaeth
1841 . . . . . . . . 6,471
1851 . . . . . . . . 14,998
1861 . . . . . . . . 32,299
1871 . . . . . . . . 37,704
1881 . . . . . . . . 35,513


Oddiar y dyddiad diweddaf y mae y boblogaeth wedi cynnyddu amryw filoedd.

Y mae y ffeithiau a'r ffigyrau uchod yn ddigon, ni a gredwn, i ddangos y cynnydd rhyfeddol y rhaid fod wedi cymmeryd lle yn Aberdar a'r cylchoedd am y blynyddau cyntaf wedi dyfodiad y Dr. i'r dyffryn; ac o ran hyny ni fu ond cynnyddu yn hanes y cwm hyd yr ychydig flynyddau olaf yn ei fywyd. Hefyd, gellir casglu oddiwrth y ffeithiau a nodasom am agoriad cynnifer o weithfeydd mawrion gyda'u gilydd bron yn nghylch y cyfnod y daeth y Dr. i'r lle, pa mor gyflym y rhaid fod y cynnydd hwnw, ac nid yw yn rhyfedd i'r Dr. ysgrifenu y brawddegau arwyddocaol a chynnwysfawr, "Aberdar fel ardal yn myned i gynnyddu yn gyflym iawn—y trigolion yn amlhau—cymmydogaethau newyddion yn cyfodi—dieithriaid lawer yn tyru i'r lle," &c. Yn fuan aeth y pentref cymharol fychan yn dref fawr, a'r twyni meillionog y soniasom am danynt a gladdwyd dan bentrefi mawrion o anneddau gorwych, yn mhlith y rhai y gwelid capelau lluosog ac eglwysi yn dyrchu eu penau fel tyrau cyssegredig, yn brawfion o'r yspryd crefyddol oedd yn bodoli ac yn myned ar gynnydd gyda chynnydd y trigolion yn y pentrefi hyn. I fyny oedd cyfeiriad pob peth yn Aberdar, nid yn unig yn fasnachol ac mewn poblogaeth, ond hefyd mewn ystyron ereill,—i fyny yn ddinesol, cymdeithasol, gwleidyddol, ac yn grefyddol. Sefydlwyd yma Fwrdd Iechyd Lleol, a Bwrdd y Gwarcheidwaid yn gyssylltiedig ag Undeb Merthyr. Talwyd sylw neillduol i addysg, ac agorwyd yma Ysgolion Brutanaidd a Chenedlaethol, hyd syfydliad ysgolion y Bwrdd Addysg yn 1870. Adeiladwyd neuadd gyfleus at wasanaeth cyhoeddus y dref yn High Street, yr hon, yn herwydd cyn-