Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr hon a gafodd ynddo ef arwr diguro, bob amser a'i lef yn nerthol o'i phlaid, a holl bwysau dylanwad ei fywyd godidog drosti yn barhaus. Rhag meddwl a chredu o'r annghynnefin â hanes bywyd yr enwog Ddr. ein bod yn eithafol, ac yn priodoli iddo yr hyn na ddylem, galwn i'r bwrdd dystiolaethau diamwys niferi o'i weithredoedd clodwiw mewn ffordd o frwydrau tanllyd dros iawnderau gwahanol ddosparthiadau o fodolion yn Aberdar a'r cyffiniau, a chaiff hyny ffurfio rhan bwysig yn ein pennod ddylynol.