Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD VII.

PARHAD ABERDAR.

Price ac Aberdar—Yn cydymddadblygu—Ymladd yn erbyn y Dreth Eglwys—Amddiffyn merched a gwragedd Cymru—Cableddau y Llyfrau Gleision—Tystiolaeth anwireddus y ficer—Cyfarfod cyhoeddus i ymdrin â'r mater—Ei araeth yn y cyfarfod—Ymosod ar y Rustic Sports—Derbyn tysteb—Pryddest o glod iddo—Y ficer yn gwrthod claddu plentyn Mr. John Lewis—Areithio tu allan i'r fynwent—Claddu y plentyn—Gorfodi y ficer i gynnal gwasanaeth boreuol yn yr Eglwys—Ymdrech o blaid addysg—Ei ysgrif yn "Seren Cymru" ar bwnc y Reform Bill—Yn derbyn diolchgarwch Derby a Bright—Ei gyssylltiad agos a'r glowyr a'r gweithwyr tân—Ei ysgrifau, &c.—Yn aelod o'r gwahanol fyrddau—Aberdar yn wahanol i'r hyn ydoedd ar ddyfodiad Price yno.

FEL y dangosasom yn barod yn y bennod flaenorol, yr oedd Aberdar yn ymagor, ac ar ei hesgynfa yn mhob ystyr pan ddaeth Price i'r dyffryn. Yr oedd yntau fel person yr un fath. Yr oedd ynddo blygion ar blygion i ymagor, a meddai allu diamheuol i gerdded yn gyfochrog ag amgylchiadau lleol, yn gystal a nerth a chyflymdra i redeg yn mlaen gyda diwygiadau yr oes. Un o'i ragoriaethau penaf ydoedd ei fod yn ymgyssylltu bob amser, fel yr awgrymasom yn barod, â materion cyhoeddus y dref a'r gymmydogaeth, a phrofai ei hun yn feistr yr amgylchiadau pan yn gwneuthur felly. Ond yr oedd, yn fynych, drwy hyny, yn gosod ei hun yn agored i erlidiau gelynion, a chyfeillion weithiau. Gallai ddweyd mewn rhai brwydrau y bu ynddynt, fel Paul, ei fod " Mewn blinderau yn helaethach, ac mewn gwialenodiau dros fesur;" ond gallai ddyoddef y cwbl yn amyneddgar, ac anwybyddu llawer o wrthwynebiadau er mwyn yr egwyddor neu yr egwyddorion y brwydrai drostynt. Meddai lawer iawn o annybyniaeth a phenderfynolrwydd di-ildio. Ei frwydr gyntaf oedd yn erbyn y Dreth Eglwys, yn yr hon ni fwriodd efe arfau hyd nes y cafodd y Parch. John Griffiths, M.A., ficer y plwyf, i ben-