Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gofnodi ganddo, yr hwn fydd yn ddigon i ni ddyfynu i ddangos cwrs Price yn ei wyneb. Darllena fel y canlyn:—

"Dydd rhyfedd oedd hwn. Mae y Parch. Evan Lewis wedi dyfod yn ficer i Aberdar. Yr oedd mewn angladd heddyw am y waith gyntaf. Mab i John Lewis oedd yn cael ei gladdu. Gwrthododd y ficer; ond claddwyd y plentyn, ac areithiwyd genyf oddifaes i'r fynwent. Mae yma deimlad iawn. Pregethu y nos yn nhy Nancy Parry, Rhestr Fawr."

Dywedir fod Price yn amser y ficer blaenorol, y Parch. J. Griffith, wedi bod mewn ffrwgwd gyffelyb amryw droion, a'i fod wedi dweyd wrth y Ficer y dangosai iddo mai gwas y plwyfolion ydoedd, ac nid eu meistr. Hefyd, y dangosai iddo nad oedd yn cyflawnu ei ddyledswyddau megys y dylasai, ond y buasai efe o hyny allan yn mynu gweled y gwaith yn cael ei gyflawnu yn llwyrach, ac felly y bu. Yr oedd Price yn hyn, fel yn mhob peth arall braidd, wedi chwilio dirgelion allan a mynu gweled pethau i'w gwaelodion. Tebyg ei fod wedi cael o hyd i hen weithredoedd eglwys y plwyf, y rhai a ddangosant fod yn rhaid cynnal gwasanaeth ynddi bob dydd o'r flwyddyn. Galwodd sylw y ficer at hyn, a mynodd ei weled yn cael ei gario allan yn llythyrenol. Y mae y gwasanaeth, yn ol y weithred, mae yn debyg, wedi ei barhau yn gysson a rheolaidd, dywedir, o'r adeg hono hyd yn bresenol. Cynnelir y gwasanaeth yn awr ynddi bob boreu am 7.30, er fod yma ddwy Eglwys arall i'w cael yn y dref yn fwy cyfleus. Fel hyn y cawn Price yn brwydro yn galed a dewr â'r Eglwyswyr dros Ymneillduaeth ac hawliau Ymneillduwyr hyd y sicrhaodd lawer o'u hiawnderau iddynt, a thrwy wneuthur felly cerid ef gan y bobl, ac aeth yn boblogaidd iawn yn mhlith trigolion y plwyf, a'r wlad yn gyffredinol.

Price oedd yr yspryd symmudol cyntaf gydag addysg rydd yn Aberdar. Costiodd sefydlu ysgol yma lawer o lafur, amser, ac arian iddo ef. Yn ol y mynegiadau sydd yn ein meddiant, yn nghyd â'r llyfrau a gynnwysant (yn llawysgrif Price), gofnodion ac hanes cyflawn o weithrediadau y pwyllgor, cawn ei fod yn gweithio yn galed ac yn egniol iawn. Cafodd gydweithiwr rhagorol yn mherson y Parch. W. Edwards, Ebenezer, Trecynon. Yr oedd efe o galon yn gefnogydd mawr i addysg, a gwnaeth lawer drosti yn Aberdar; ond nid oedd cymmaint o fyn'd yn Edwards ag oedd yn Price. Felly efe yn gyffredin oedd