Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Coder enw Price i fyny,
Teilwng yw o barch y wlad,
Myn i ddynion eu hiawnderau,
A diffyna'r merched mad;
Uned Gwent a holl Forganwg,
Ceredigion gyda hwy,
Aed ei glod trwy Gymru'n gyfan,
Price fo'n uchel yn mhob plwy'.
"Ferched Cymru, De a Gogledd,
Rhoddwch glod i'r gwron gwiw,
Amddiffynodd eich cymmeriad,
Amddiffyna tra bo byw;
Boed i chwithau oll amddiffyn
Ei gymmeriad yn mhob man,
Mae yn gyfaill i'r angenus
Ac yn gymhorth gwir i'r gwan.

Llanelli

"CYMRO DU."

Ein hunig ymddiheurad am osod cymmaint o'r bryddest yma yw ei bod, fel y nodasom, yn gyflawn o'r gwrthddrych. Nid ydym yn gwybod pwy oedd Cymro Du, Llanelli, ei hawdwr; ond ymddengys i ni ei fod ef yn gwybod pwy oedd y Parch. Thomas Price, a llwyddodd i dynu darlun tra chywir o hono. Gwnaed ymosodiadau llechwraidd gan rai o'r "Trade" ar y Dr. am eu gwrthwynebu, a chyhoeddasant bapyrau dienw i'w ddiraddio. Cynnaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Nghalfaria i wrthdystio yn erbyn yr ymddygiadau gwarthus hyny, pan y rhoddwyd anerchiad i'r Dr., ac i'r Parch. J. Davies, Aberaman, yr hwn oedd yn gydolygydd ag ef ar y Gwron, a dystawodd y "Trade" am byth. Y mae yr anerchiad hwnw wedi ei gadw yn Rose Cottage, mor barchus ag unrhyw un a gafodd erioed.

Cymmerodd brwydrau lawer le rhwng offeiriaid a ficeriaid Aberdar a Thomas Price o bryd i'w gilydd. Dichon eu bod hwy, yn herwydd ei ymosodiadau beiddgar a dynol ef arnynt yn yr amgylchiadau a nodasom, yn teimlo yn eiddigeddus wrtho, yn ei wylio ac yn ei dalu yn ol pan gaffent gyfle; ond yr oedd efe yn mhob achos yn dyfod allan yn fuddugoliaethus arnynt.

Gwrthodai yr offeiriaid weithiau gladdu Ymneillduwr, yn enwedig plant, os meddylient eu bod heb eu bedyddio, fel y dywedent. Ond yr oedd efe yn gallu eu trin yn lew, ac yn fynych yn dysgu gwersi pwysig iddynt yn yr ymrysonau hyn. Yn ei ddyddiadur am dydd Mawrth, y 17eg o Ionawr, 1860, cawn hanes un o'r amgylchiadau a nodwn wedi ei