Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

foesol, cymdeithasol, a chrefyddol. Dywedai un o hen drigolion y plwyf (Aberdar) wrthym yn ddiweddar nad oedd dim o bwys wedi cymmeryd lle yn Aberdar, nac un sefydliad wedi cael ei fodolaeth yno, yn ystod y deugain mlynedd diweddaf, heb fod Price a'r llaw flaenaf wrtho, a'r baich trymaf yn gyffredin yn cael ei gario ganddo, er fod dynion rhagorol wedi bod yn cydweithredu ag ef yn y dref a'r cylchoedd. Bu ef nid yn unig yn arwain gyda sefydliad yr Ysgol Frytanaidd, fel y cyfeiriasom yn barod; eithr bu yn ddiwyd gyda sefydliad y Bwrdd Lleol, a bu yn aelod gweithgar a ffyddlon o hono am flynyddau meithion. Cymmerodd ran flaenllaw yn nygiad y nwy i oleuo y dref a'r dyffryn. Fel aelod o'r Bwrdd Lleol bu yn wasanaethgar gyda gweithiad allan gynlluniau a gorpheniad y dwfr-weithfeydd mawrion perthynol i'r plwyf. Bu yn ymarferol ei gynghorion a doeth ei gyfarwyddiadau yn sefydliad y Bwrdd Addysg, a chafodd yr anrhydedd o fod yn aelod o hono am flynyddau, ac o ran hyny hyd ei ymddiswyddiad yn herwydd henaint a dihoeniad ei iechyd. Bu yn boblogaidd iawn am lawer o flynyddau fel aelod ar Fwrdd y Gwarcheidwaid, ac ni chafodd y tlodion erioed burach a gwell cyfaill nâ'r Dr. Cymmerodd ran bwysig hefyd yn ffurfiad a sefydliad Bwrdd Claddu Aberdar, a bu yn aelod o hono hyd ei farw.

Dywedai y Parch. W. Morris (Rhosynog), Treorci, dydd claddedigaeth Dr. Price, yn ei anerchiad pwrpasol o flaen y Rose Cottage, cyn cychwyn o'r cynhebrwng: "Ni ellir byth (meddai) ysgrifenu hanes Aberdar a'r cylchoedd heb hefyd ysgrifenu hanes bywyd Dr. Price. Yr oedd ei fywyd a'i enw yn gydwëedig â chynnydd a thyfiant Aberdar. Nid oedd monument wedi ei godi i Syr Christopher Wren, os am weled hwnw rhaid edrych ar ei waith yn adeilad ardderchog St. Paul. Gyda llawer o briodoldeb y gellid dweyd, os am gael golwg ar fywyd gweithgar a llafur diflino Dr. Price, nid oedd eisieu ond edrych o gwmpas Aberdar a'r dyffryn. Yr oedd wedi bod yn flaenllaw gyda holl symmudiadau cyhoeddus y dref, ac wedi argraffu ei enw yn ddwfn ar bob peth braidd o bwys yn y lle." Y mae llawer o deithi godidog i'w cael etto yn nghymmeriad y dyn mawr hwn, nad ydym hyd yma wedi eu cyffwrdd, ddeuant i'r golwg yn ei gyssylltiad ag Aberdar, y rhai a geisiwn eu harddangos etto o safbwyntiau ereill. Yr ydym yn gadael Aberdar yn awr yn hollol wahanol i'r hyn yr edrychem