arno yr adeg y daeth Price i'r dyffryn. Felly, wrth ddychwelyd at ei eglwys a'i gyssylltiadau crefyddol yn y dref a'r dyffryn, gallwn ddysgwyl cael golwg dra gwahanol arnynt i'r hyn a ymddangosent i ni pan gymmerasom ein cenad i edrych ar a thraethu am gyfodiad a chynnydd Aberdar mewn gwahanol foddau yn ystod bywyd llafur-fawr Dr. Price. Teimlwn fod y maes yn eang a'r tir yn gyssegredig. Ni feiddiwn fyned iddo na'i dramwyo wrthym ein hunain; eithr anturiwn yn wylaidd yn mraich garedig y Dr., oblegyd bydd yn rhaid i ni, gyda rhan luosog o'r ffeithiau cyssylltiedig â'r eglwys barchus yn Nghalfaria a'i changenau lluosog, ymgynghori â'r Dr. yn ei Jubili a'i Drem ar eglwys Calfaria. Cymmerwn fras olwg yn ein pennodau nesaf ar Dr. Price yn ei berthynas neillduol â'i eglwys yn Nghalfaria, a gwnawn hyny drwy ystyried dau gyfnod o'i hanes, fel y gwna efe yn y Jubili, sef yr ugain mlynedd cyntaf o'i weinidogaeth hyd 1866, ac yna hyd ei farwolaeth. Wedi hyny cymmerwn ein cenad i ddychwelyd at y cangenau, gan ddangos ei berthynas â'r enwad yn y dyffryn.