Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr aelodau yn byw ynddynt. Hwn, yr adeg hon, oedd y dosparth goreu o lawer, yn fwy lluosog, ac i'n golwg ni yn fwy addawol nag un o'r lleill. Yr oedd y rhan ganol o'r eglwys yn para yn y capel fel o'r blaen. Fel hyn daethom i gael pedwar cwrdd gweddi wythnosol, a'r rhai hyny ar yr un pryd, a phedair Ysgol Sul mewn llawn weithrediad. Teimlasom yo fuan fod yr egwyddor hon o ranu y gwaith yn un dda iawn. Yr oedd pob aelod o'r eglwys yn cael ei ddwyn i gylch o ddefnyddioldeb, yr oedd pob un yn cael cyfle i wneyd daioni, tra nad oedd gan neb o honom amser i wneyd drwg, pe byddem yn dewis gwneyd hyny. Trwy hyn hefyd yr oedd egwyddorion y Testament Newydd yn cael eu dwyn i sylw cannoedd o ddynion yn y gwahanol ddosbarthiadau na fuasem ni byth yn eu gweled yn y capel. Wedi hyny yr ydym wedi bod yn medi ffrwyth toreithiog fel canlyniad i'r had da a hauwyd yn y meusydd newyddion yn y blynyddau hyn ar grefydd yn y dosparthiadau. Peth arall, yr oedd yn cadw y gweinidog ieuanc mewn llawn waith ac ymarferiad. Nid oedd amser ganddo i dreulio dyddiau yn segur i wrandaw chwedlau diles a drygionus o dy i dy; ond yr oedd agor meusydd newyddion, planu a chynllunio i'r dosbarthiadau yn cadw ei feddwl mewn llawn waith. Yr oedd mynych ymweliadau â'r dosparthiadau i fod yn eu cyfarfodydd ar gylch yn cadw ei gorff mewn ymarferiad, tra yr oedd y profiad a enillodd trwy hyn yn ei wneyd yn llawer mwy cymhwys i lywyddu yn eglwys Dduw nag y buasai heb hyny. Mae blynyddau o brofiad wedi ein dysgu bellach fod gweithgarwch eglwysig yn elfen bwysig er ychwanegu dedwyddwch mewnol yr eglwys, tra y bydd yn cryfhau ei dylanwad moesol ar y byd."

Nid oedd y rhaniad a'r dosparthiad uchod ond dechreuad. Nid oedd amgen gosodiad i lawr sylfaen yr adeiladwaith oedd i'w ddwyn yn mlaen gan y gweinidog ieuanc a'i eglwys yn y dyfodol. Amlinelliad ydoedd yn dangos beth amcenid gan Price, ac yr ymestynid ato ganddo fel y byddai amgylchiadau yn galw ac yn caniatau. Cafodd y drefn hon ei pharhau yn yr eglwys tra y bu y gweithiwr difefl yn weinidog arni; oblegyd fel y gwelir yn y Trem a gyhoeddwyd gan y Dr. yn y flwyddyn 1885, cawn fod yr eglwys yr adeg hono wedi ei rhanu i un-ar-ddeg o ddosparthiadau, yn gyfundrefnol yn ol y rhanbarthau y byddai yr aelodau yn byw ynddynt, a phob dosparth dan ofal" ymwelydd neillduol a gofalus, yr hyn, yn ddiau, sydd wedi profi yn fanteisiol i'r eglwys drwy yr holl flynyddau, ac sydd hefyd yn cyfrif i raddau mawr am dangnefedd mewnol yr eglwys, a'r llwyddiant mewn niferi a nerth moesol ac ysprydol. A