Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chyhyd ag y byddai y cangenau dan nawdd y fam eglwys a gofal gweinidogaethol Price, cyflwynid y drefn hon iddynt a mynai ef weled ei bod yn cael ei chario allan yn effeithiol ganddynt.

Yn y flwyddyn 1849 mae yr eglwys wedi dyfod i gyflwr gweithio, ac er rhoddi pob mantais i'w wneyd yn egniol, ychwanegwyd at nifer y diaconiaid y brodyr Phillip John, David Hughes, William Davies, John Thomas, Thomas Dyke, a John Davies. Y mae dau o honynt, sef D. Hughes a W. Davies, yn aros hyd heddyw, ac er mewn gwth o oedran, llanwant y swydd yn deilwng ac anrhydeddus. Yn y flwyddyn hono gollyngwyd amryw frodyr yn nosparth Aberaman i ffurfio Eglwys Gwawr, a chorffolwyd hwy mewn pryd i'w derbyn yn eglwys i'r gymmanfa y flwyddyn hono. Yn y flwyddyn ddylynol, sef yn 1850, er gollyngiad y brodyr hyni Aberaman, teimlodd y frawdoliaeth angen capel eangach nag oedd ganddynt ar y pryd. Wedi ychydig o bryderu o du yr eglwys, cafodd Price hwy, trwy ei yspryd ymroddgar a phenderfynol, i hwyl codi capel newydd, a dechreuwyd ar y gwaith yn y flwyddyn 1851, a daeth yn barod erbyn dechreu 1852. Yr oeddynt wedi bod yn addoli yn yr hen gapel am ddeugain mlynedd, a chyn ymadael ar foreu dydd yr Arglwydd, Chwefror yr 8fed, 1852, cynnaliodd yr eglwys gyfarfod gweddi i gydnabod llaw ddaionus yr Arglwydd at yr eglwys yn ystod y blynyddau meithion hyn; ac yn yr hwyr y dydd hwnw symmudwyd yr arch o Benypound i gapel newydd Calfaria, ac yn y mis Mai canlynol cafodd ei agor, pan y cynnaliwyd rhes o gyfarfodydd cyhoeddus ar yr achlysur.

Yn y flwyddyn 1855, fel y cawn sylwi etto yn helaethach, corffolwyd y gangen yn Mountain Ash, yr hon gafodd ei derbyn i'r Gymmanfa yr un flwyddyn. Yn y flwyddyn hono hefyd y corffolwyd Eglwys Heolyfelin dan nawdd Eglwys Hirwaun, ond fod amryw o aelodau Aberdar oeddynt yn byw ar Heolyfelin wedi ymuno â hi ar ei chorffoliad. Yn y flwyddyn 1856, gollyngwyd pedwar ugain o aelodau er ffurfio yr Eglwys Seisnig, yr hon hyd hyny oedd gangen o'r Eglwys Gymreig. Yn yr un flwyddyn hefyd y dechreuwyd adeiladu Bethel, Abernant, ac agorwyd ef dydd Sul, Ionawr 25, 1857. Mesurai yr ystafell 44 troedfedd wrth 28 troedfedd, ac yr oedd (rhwng y tŷ annedd) yn werth £344 18s. 3c.

Yn y flwyddyn 1858, cawn fod yr eglwys wedi penderfynu helaethu ei therfynau trwy adeiladu ysgoldai cyfleus