yn yr Ynyslwyd a'r Gadlys. Mesurai ysgoldy yr Ynyslwyd 44 troedfedd wrth 28, gyda thy annedd da, y cwbl yn werth £254 17s. 8c. Gyda bod hwn wedi ei agor o du deheu i Galfaria, dechreuwyd adeiladu ysgoldy o'r un maintioli yn y Gadlys, yn nghyd a thri o dai annedd, y cwbl yn werth £372 3s. 4½c.
Yn yr un flwyddyn penderfynodd yr eglwys yn Nghalfaria wneyd cyfnewidiadau pwysig yn y capel oddifewn ac oddiallan, yr hyn a gostiodd iddi y swm o £350. Ail-agorwyd y capel, yn ol Mynegiad yn y Gweithiwr am Mehefin yr 11eg, 1859, ar y dyddiau Mawrth a Mercher blaenorol, sef y 7fed a'r 8fed. Dywed y Mynegydd, "Mae Calfaria yn awr yn un o'r capelau goreu yn Sir Forganwg, ac er ei fod yn fawr, etto yn rhy fach i ddal y rhai a garant ddyfod yno i wrando." Wedi manylu ar y cyfarfodydd, yn y rhai y neillduwyd unarddeg o ddiaconiaid i'r swydd gan Mr. Price, y gweinidog, trwy weddi ac arddodiad dwylaw, dywed fod y casgliadau wedi cyrhaedd y swm o £177 7s.4½c. Yr oedd £50 o hono wedi ei anfon gan C. R. M. Talbot, Ysw., A.S.[1] Y gweddill yn rhoddion yr eglwys, yn cael ei chynnorthwyo gan y gwrandawyr parchus—ar ddydd yr ail-agoriad. "Yr ydym (meddai yn mhellach) fel eglwys wedi talu yn agos i £1,400 yn ystod y deg mlynedd diweddaf, ac yr ydym yn awr ar orphen ysgoldai eang yn Ynyslwyd a'r Gadlys, ac helethiad y tŷ cwrdd yn cychwyn mewn dyled o £1,420 18s. 3c., yr hyn a dalwn dan ganu o hyn i bum' mlynedd i yn awr, os bydd i Dduw y nefoedd wenu arnom fel y gwnaeth yn y deg mlynedd diweddaf." Am gyfnewidiadau pwysig a chynnydd rhyfeddol yr enwad yn y Dyffryn, ysgrifena Dr. Price yn ei Juwbili fel y canlyn:—
"Yn ystod yr un mlynedd ar bymtheg diweddaf y mae cyfnewidiadau pwysig iawn wedi cymmeryd lle yn Aberdar. Mae y trigolion wedi cynnyddu yn fawr iawn, felly dylasai yn ol natur pethau fod cynnydd yn rhif yr aelodau yn yr eglwys er cadw ei safle yn unig, heb fod
- ↑ Yr oedd y Dr ychydig cyn hyn wedi bod yn cymmeryd rhan bwysig a thra blaenllaw gydag etholiad gwleidyddol y Sir, ac felly wedi bod o gynnorthwy mawr i ddychwelyd yn llwyddiannus y boneddwr parchus ac haeddglodus o Fargam. ac yr oedd yntau, fel y gwelir, yn cofio yn garedig am y Dr. drwy gyfranu yn dywysogaidd at yr eglwys oedd dan ei ofal.