Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

unrhyw wir gynnydd yn cymeryd lle, ac ystyried agwedd gynnyddfawr Aberdar a'i phoblogaeth. Ond y mae genym ni achos diolch i Dduw fod cynnydd y Bedyddwyr yn Aberdar am y pymtheg mlynedd diweddaf yn llawer mwy mewn cyfartaledd nâ chynnydd y boblogaeth. A rhoddi 91 o Fedyddwyr yn y flwyddyn 1846 ar gyfer trigolion Llwydcoed, Tai Penywaen, Heolyfelin. Abernant, Aberdar, Aberaman, Cwmaman, Abercwmboye, a Mountain Ash, byddai 650 o Fedyddwyr yn awr yn y lleoedd yna yn ateb i 91 yn 1846. Ond y mae eglwys Calfaria ei hun yn 1,031 o gymunwyr heddyw, tra y mae eglwysi Llwydcoed, Cwmdar, Heolyfelin, Carmel, Aberdar, Gwawr, Aberaman, Cwmaman, Abercwmboye, a'r Mountain Ash yn rhifo yn ychwanegol. Fel hyn y gwelir fod y Bedyddwyr wedi cynnyddu yn mhell iawn tu hwnt i gynnydd y boblogaeth yn Aberdar yn y pymtheg mlynedd diweddaf."

Rhydd y ffeithiau uchod i ni olwg ffafriol ar ffyddlondeb dihafal ac ymdrechion diflino y Bedyddwyr yn y dyffryn, yn o gystal ag enghreifftiau o weithgarwch a gofal annhraethol tywysog llu y Bedyddwyr yn y cwm—y Parch. Thomas Price. Ond nid yw yr hyn sydd wedi ei nodi allan genym etto ond rhan fechan iawn o'r gwaith mawr gyflawnwyd ganddo yn ei gyssylltiad ag achos y Gwaredwr yn Aberdar a'r cylchoedd. I sicrhau y llwyddiant enfawr a noda y Dr., gosododd efe ei holl alluoedd i gynllunio, trefnu, ac arwain yn gysson, mewn gweithrediad. Nid ydym yn gwybod am un eglwys Gymreig yn y Dywysogaeth wedi cael mwy o waith wedi ei dori allan iddi gan ei bugail, ac wedi ei chynnorthwyo yn helaethach ganddo, i'w gyflawnu yn llwyr ac effeithiol. Sefydlodd y Dr. yn gyssylltiedig â'r eglwys amryw gymdeithasau buddiol, yr oll o honynt yn hyrwyddol i'w llwyddiant a'i chysur parhaus yn mhob ystyr. Bu y sefydliadau hyn yn cael eu cario yn mlaen am flynyddau yn gyfundrefnol a gofalus, ac y mae rhai o honynt mewn bod ac yn llewyrchus hyd heddyw. Gan eu bod yn arddangos mewn graddau helaeth business tact y Dr., ac y gallent fod yn fanteisiol i weinidogion ac eglwysi ereill i fabwysiadu rhai tebyg, gosodwn rai o honynt yma, fel y gwelodd y Dr. yn dda eu hargraffu yn ei Juwbili:—

CYMDEITHASAU CYNNORTHWYOL YR EGLWYS.

"Y mae yn perthyn i'r eglwys amryw gymdeithasau cynnorthwyol, y rhai ydynt yn fath o adgyfnerthion i Seion i gael y byd i ufudd-dod