Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Crist. Y mae y rhai hyn yn gweithio er daioni gyda ni, a charem weled cymdeithasau cyffelyb mewn ymarferiad yn ein heglwysi yn fwy cyffredinol nag ydynt yn awr. Y cyntaf a gawn nodi yw—

YR UNDEB CRISTIONOGOL.[1]

"Budd-Gymdeithas yw yr Undeb Cristionogol er lles yn benaf i aelodau y gynnulleidfa, ond yn agored i unrhyw ddyn ieuanc sobr a gweithgar a ddymunai ymuno â hi yn ol y Rheolau. Sefydlwyd hon yn y flwyddyn 1861. Y mae wedi para i gynnyddu a chryfhau o hyny hyd yn awr. Y mae pwysigrwydd ei gweithrediadau i'w canfod yn y ffaith fod ei derbyniadau arianol o'r dechreu hyd Ragfyr, 1861, yn cyrhaedd y swm o £1,197 15s. 4½/c., tra yr oedd y taliadau allan am yr un cyfnod yn cyrhaedd y swm o £878 10s. 1oC. Yr oedd ei Thrysorfa Gadw (Reserve Fund) ar ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf yn £300, tra yr oedd yn llaw y trysorydd £19 4s. 6½c. er cyfarfod â galwadau y cleifion. Y mae hwn yn un o'r clybiau rhataf a mwyaf llwyddiannus yn yr holl ardal. Mae ei weithrediadau yn cael eu dwyn yn mlaen yn hollol ddidwrw ac heb, hyd yma, un ffyrling o gamsynied arianol. Ar ol mwy na deng mlynedd o brofiad, yr ydym ni yn cymmeradwyo yr Undeb Cristionogol, neu ryw undeb cyffelyb, i sylw yr eglwysi trwy Gymru.

UNDEB DORCAS.

"Budd-Gymdeithas yw hon etto wedi ei sefydlu er mwyn merched a gwragedd y gynnulleidfa a'r gymmydogaeth. Cafodd hon ei sefydlu yn y flwyddyn 1853. Y mae wedi para i gynnyddu yn raddol o hyny hyd yn awr. Y mae ei derbyniadau o'r dechreu hyd fis Ebrill, 1862, yn cyrhaedd y swm o £274 9s. 3c. Yn yr un cyfnod, mae wedi talu allan mewn achosion o glefyd a marwolaeth y swm o £134 16s. Ioc. Y mae ganddi yn awr Drysorfa Gadw o £130 yn dwyn llog, tra y mae yn llaw y Trysorydd y swm o £9 12s. 5c. er cyfarfod galwadau y flwyddyn. Y mae y gymdeithas hon etto yn un a allwn ei chymmeradwyo i'r meddylgar yn ein heglwysi. Y mae rheolau argraffedig y cymdeithasau hyn wedi eu tynu i fyny gyda gofal am ddyogelwch, ac ar yr un pryd yn hollol syml a dirodres.

  1. Y mae y gymdeithas ragorol hon mewn bod yn bresenol, ac yn llewyrchus; ond nid ydyw yn dal cyssylltiad neillduol â'r eglwys yn Nghalfaria, yn amgen na'i bod yn cael ei chynnal yn Nghalfaria Hall.