Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

II. FY MAM.

I. RHIENI FY MAM.

CALED ydyw calon, a rhewllyd ydyw mynwes y plentyn a eill edrych ar fedd ei fam yn ddigyffroad. Trom yw sefyllfa yr hwn nas hebgor rhyw gyfran o'i enaid i drysori coffadwriaeth yr hon a'i hymddug, ac a oddefodd holl bangau merthyrdod mamolaidd er ei fwyn cyn iddo agor ei lygaid ar oleu dydd. Anfynych iawn y mae un fam heb gyflawni miloedd o weithredoedd serchus, y rhai a deilyngant i'w henw gael ei ddwfn gerfio ar lechau cnawdol y galon. Hanes y fam i raddau helaeth ydyw hanes y plentyn. Yn y cyffredin, hi sydd yn ffurfio y tueddiadau, y rhai a ddadblygir mewn blynyddoedd dyfodol. Yn sefyllfa bresennol Cymru, y mae pob peth perthynol i'r cymeriad mamaidd o bwys; a hyderir y gall rhai o ferched a mamau ein gwlad dderbyn ychydig lesâd oddiwrth y crybwyllion canlynol am fy mam; ac efallai na bydd y cofion eglwysig y cyfeirir atynt yn anerbyniol i'r cyffredin.

Yr oedd rhieni fy mam yn dlodion. Nid oedd ganddynt ddim i fyw arno ond llafur eu breichiau. Priodasant yn ieuanc, a bu iddynt lawer o blant. Y maent ill dau yn gorwedd yn agos i fedd Llywarch Hen, ym mynwent Llanfor, gerllaw y Bala, lle y ganwyd hwynt, y priodwyd hwynt, y buont fyw, ac y buont feirw. Hunant yn dawel gyda'u tadau.

Fy mam oedd eu cyntafanedig. Ganwyd hi Mawrth 18, 1773—Gwneid cymaint o groesaw i'r ddyeithres fach ar y pryd ag a allai teulu y dyn tlawd ganiatau. Yr oedd Dafydd Zaccheus mor hoff o'i eneth fechan a phe buasai yn iarll neu ardalydd, ac nid llai oedd llawenydd ei wraig Gwen na phe y gwisgasai goron duces ar ei grudd. Ni roddodd Duw gyfoeth i'r holl hil ddynol, ond rhoddodd serch i bawb. Amser lled isel ar grefydd oedd dyddiau boreol fy mam. Yr oedd Dafydd Zaccheus yn Fethodist gwresog, ac yn ddyn da, arafaidd, a duwiol. Yr oedd ei wraig yn myned i'r Eglwys Wladol y pryd hwnnw, ac felly y parhaodd drwy ei bywyd. Felly yr oedd ei mam o'i blaen; ac nid oedd lle i ddisgwyl iddi ymadael heb deimlo nerthoedd y byd a ddaw, gan eu bod yn byw o dan nodded teulu y Rhiwlas, y rhai sydd wedi bod yn nodedig,