Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

er dyddiau Siarl II., am eu hymlyniad wrth Eglwys y Llywodraeth, a'u gwrthwynebiad i'r eglwys ysbrydol. Yn y flwyddyn 1774. galwyd fy nhaid gyda y meiwyr lleol (local militia) i Ddolgellau. Beth a arweiniodd y gŵr da i wisgo y dillad cochion sydd anhysbys i mi. Tebyg mai ei dynnu a gafodd, a'i fod fel dyn tlawd yn rhwym o sefyll, gan nas gallai dalu i neb am sefyll yn ei le. Gwyddom, pa fodd bynnag, nad oedd ar delerau da ag arferion milwraidd. Er fod y meiwyr yn gorfod gwisgo dillad cochion, yr oeddynt dan yr angenrheidrwydd o wynlychu (to powder) eu gwallt nes y byddai eu pennau yn berffaith wynion. Nid oedd y driniaeth hon yn cydweddu mewn un modd ag arferion a theimladau fy nhaid. Yr oedd y llwch yn disgyn i'w lygaid, a'i glustiau, a'i war, nes peri iddo deimlo yn dra anghysurus. Un diwrnod ym Mai, pan yn dra lluddedig ar farian Dolgellau, rhwbiai ychydig ar ei glust yn erbyn coler ei grys. Sylwodd un o'r swyddogion arno, a gwaharddodd ef; ond ymhen ychydig achlysurodd llwch y gwallt iddo anghofio y gwaharddiad, yr hyn a enynnodd ddigofaint y swyddog; ac wrth ollwng y gatrawd o flaen y lle y saif neuadd bresennol y dref, tarawodd ef ar ei gefn â'i ffon, nes cododd y cig oddiwrth yr esgyrn. Mewn helbulon fel hyn y treuliodd Dafydd Zaccheus, druan, ei fywyd milwraidd.

Un canol dydd, anturiodd gŵr dyeithr o'r Deheudir gynnyg pregethu ar y garreg feirch ar ganol yr heol. Cynhyrfodd hyn y werin yn ddychrynllyd, a bu gorfod i'r llefarwr gipio ei geffyl ar frys gwyllt, a gwneud y goreu o'i ffordd tua'r Bont Fawr: ond erbyn cyrraedd yno, yr oedd Eglwyswyr selog Dolgellau wedi cymeryd meddiant o'r bont, gyda'r bwriad, mae'n debyg, o'i faeddu yn greulon, neu ei anfon drosti i ffrydiau Wnion. Yr oedd un o'r tylwyth a thryfer fawr yn ei law yn rhedeg ar ei ol. Wrth weled y bont yn gauedig, nid oedd ganddo ond troi i'r cae lle y saif y neuadd, a nofio yr afon. Wrth weled fod llidiart cauedig o'i flaen yr ochr arall, rhedai fy nhaid ei oreu er ei agor; ond cafwyd y blaen arno gan wraig eglwyswr y dryfer, yr hon, yn ei charedigrwydd a'i ffwdan, a gollodd ei modrwy aur, ac ni chafodd hi mwyach. Anfonodd fy nhaid y gŵr dyeithr drwy Wtra y Llwyn, ac i fyny Rhiw Carreg Feurig, nes oedd o gyrraedd ei erlidwyr. Yr oedd pobl Dolgellau yn ffol iawn y pryd hwnnw; hyderwn nad oes llawer o honynt yn ddigon ffol i gymeryd eu hudo gan yr un Eglwys yn awr. Yr oedd eu sel y pryd hwnnw yn ddigon tanbaid i ddringo Rhiw Fronserth tua Phant y Cra, er lladd Thomas Foulkes o'r