Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y tŷ, dechreuwyd ei holi a oedd wedi cau y llidiart; i'r hyn yr atebodd nad oedd, gan adrodd athrawiaeth ei mam er cyfiawnhau ei hymddygiad. Taflodd hyn hi allan o lyfrau arglwyddes y tŷ yn erchyll; ac nid oedd dim yn sefyll rhyngddi ac esgymundod, ond ei bod wedi cyfaddef y gwir. Er nad oedd addysg fy nain mewn moesoldeb a chrefydd yn eang, eto yr oedd yn werthfawr. Yr oedd fy rhaid yn rhagori ar ei briod; ei addysg ef a weithiodd ar feddwl fy mam. Llawenhai yr hen wr wrth weled ei bod yn derbyn ei eiriau; ac hyd derfyn ei oes teimlai yn serchus iawn at ei "eneth fawr," fel yr arferai ei galw.

Ni bu addysg ddyddiol fy mam ond byr iawn. Holl swm ei hysgolheigiaeth dyddiol fu deuddeg diwrnod i ddysgu Cymraeg. Ei hathraw oedd yr hybarch bererin Dafydd Cadwaladr. Digon tebyg na buasai Dafydd Cadwaladr yn un o etholedigion athrawol yr oes oleu hon. Ond byddai Dafydd yn gweddio yn daer fore a hwyr yn yr ysgol, a soniai fy mam am ei weddiau ymhen triugain mlynedd ar ol eu hoffrymu. Yr oedd yr hen wr yn cadw gwialen fawr yn yr ysgol; nid at gefnau y plant, ond at gefnau y meinciau y byddid yn ei chymhwyso, wrth i Dafydd Cadwaladr redeg ar eu holau drwy yr addoldy er mwyn iddynt gael ymdwymno. Dyma ddull yr hen wr o ymarfer corfforol.

IV. Y BEIBL COCH.

Wedi pymthegnos o ysgol, chwilio am le oedd gorchwyl nesaf geneth henaf y gŵr tlawd. Bu fy mam mewn amryw. Mewn rhai cafodd driniaeth ddigon caled; ond yn eraill, yr oedd pethau ychydig yn well. Bychan oedd yr ennill ymhob man. Er prawf o hyn gallwn nodi nas gallai dalu am Feibl ar unwaith. Cafodd goel gan Mr. Charles am dri mis, a thalodd am dano ar yr amser penodedig. Beibl wythplyg ydoedd; ac argraffesid ef yn y flwyddyn 1769. Dydd pwysig yn y Bala oedd y dydd y derbyniodd Mr. Charles y sypyn hwnnw o Feiblau. Yr oedd ei dy yn llawn o ymgeiswyr am danynt. Gwnaeth gymwynas fawr â fy mam, ac eraill, drwy adael iddi dalu am y Beibl bob yn ychydig. Gwisgodd ef mewn brethyn coch. Parchai y Beibl yn fawr. Ac o'r pryd hwnnw hyd yr awr hon, y Beibl Coch" ydyw yr enw a ddygir ganddo. Byddai ysgrifennu hanes defnyddioldeb y "Beibl Coch" yn orchwyl anhawdd. Darllennodd fy mam ef ugeiniau o weithiau drosodd. Trodd lawer