Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar y cyfeiriadau ar waelod y ddalen, y rhai oeddynt yr unig esboniad yn y tŷ. Darllennodd ef fore a hwyr. Darllennodd ef yng Nghymru a Lloegr; a chyn iddi ddysgu Saesoneg, efe oedd ei "chysegr" bychan yn y wlad olaf. Darllennodd ef i feddyg ieuanc afradlon ar ei wely angeu, nes tawelu i raddau ei gydwybod anesmwyth. Darllennodd ef gannoedd o weithiau yn y weddi deuluaidd. Darllennodd ef i'w phlant. Darllennodd ef wrth eu ceryddu, ac wrth eu cysuro, ac wrth eu cynghori. Darllennodd ef drwy ei bywyd, a darllennodd ef hyd angeu. Yn y" Beibl Coch" y dysgodd fy nhad ffordd yr Arglwydd yn fanylach. O hono ef y dysgodd eu dau blentyn y Salm gyntaf, y deg gorchymyn, ac "Yn y dechreuad yr oedd y Gair," &c. Efe oedd brenin y llyfrau: ac o'i flaen ef yr ymgrymai y plant gyda gwylder a pharchedig ofn, canys gweinyddid cosb drom am yr amharch lleiaf i'r "Beibl Coch.' Mae fy nhad, a'i ddau fab, yn parchu y "Beibl Coch" yn fawr eto; a diau os byw fydd y plant ar ol yr hen ŵr, na welant un peth a edy o'i ol mor werthfawr a'r "Beibl Coch." Rhy anhawdd i'r un o honom fynegu ein rhwymedigaethau i'r "Beibl Coch." Beth bynnag ydym i'n teuluoedd, i'r byd, ac i'r eglwys, yr ydym felly i raddau helaeth drwy y "Beibl Coch," fy mam, a charedigrwydd tynergalon Thomas Charles o'r Bala. Nid anhebyg na bydd rhan helaeth o dragwyddoldeb y gŵr da hwn yn cael ei gymeryd i fyny mewn gwrando am ddefnyddioldeb y Beiblau a ledaenodd. Y mae rhoddwr y Beibl yn fynych, fel offeryn, yn rhoddwr bywyd a thragwyddoldeb.

Pan oedd fy mam o gylch un mlwydd ar bymtheg oed, torrodd Diwygiad grymus allan yn y Bala. Fel y crybwyllwyd yn flaenorol, yr oedd yn gwrando gyda'r Anibynwyr y pryd hwn. Gweinidog y Bala ar yr adeg hon oedd y Parch. William Thomas, gynt o Hanover Yr oedd Mr. Thomas yn ŵr dysgedig, ac yn gyfieithydd amryw lyfrau i'r iaith Gymraeg. Dichon ei fod bron yn rhy ryddfrydig i'w amser, ac ni bu ei weinidogaeth yn rhydd oddiwrth ofidiau chwerwon. Gallwn feddwl nad oedd arferion a theimladau Mr. Thomas yn ei gyfaddasu yn neillduol at y fath ddiwygiadau ag a gymerent le yn yr amseroedd hynny.