Dechreuasant daranu, pob un yn ol y gallu a roddwyd iddo. Dygai gwŷr dieithr y Deheubarth eu taranau gyda hwy, ac os methent daranu, nid uchel y bernid am danynt. Bron na wrthododd y Methodistiaid Mr. Charles am nad oedd ganddo daranau. Ond yr oedd ganddo bethau gwell. Yr oedd ganddo ddysg yn ei ben, gras yn ei galon, a Beiblau ar goel i blant tlodion. Mae oes y taranau, a chenedlaeth y taranwyr, wedi myned; eithr y mae enaid ac ysbryd Charles ymhob Ysgol Sabbothol trwy Gymru, ac o fewn braidd bob bwthyn trwy y byd lle y ceir Beibl ynddo. Gweinidogaeth cariad yw yr Efengyl, ac y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn. Ni effeithia y weinidogaeth daranllyd ond ar oes anwybodus ac ofergoelus, ofnau yr hon sydd yn hawdd eu cynhyrfu. Llawer gwell i fy mam fu y "Beibl Coch" na'r dyddiau a'r nosweithiau a dreuliodd ar derfynau anobaith. Dymunwn siarad yn barchus am ei theimladau, ond ni ddymunwn annog neb i ewyllysio na disgwyl eu cyffelyb. Achubwyd un lleidr ar y groes, ond nid oes croes i achub pob lleidr.
Wedi ymuno â'r eglwys, dygodd fawr sel dros foddion gras. Ystyriai hwy yn rhy bwysig i'w hesgeuluso, ac yn rhy werthfawr i'w colli. Fel morwyn, yr oedd anhawsderau ar ei ffordd, ond symudai lawer o honynt ymaith drwy lafur ac ymdrech ychwanegol. Pan mewn gwasanaeth gydag amaethwr, bu am dymor yn rheoli wyth o fuchod, ac yn cerdded wyth milldir erbyn oedfa hanner awr wedi naw yn y bore. Ymhen blynyddoedd ar ol hynny, teithiai tua saith milldir erbyn y cyfarfod deg o'r gloch, a byddai yno yn brydlawn. Ni bydd llawer o lewyrch ar grefydd proffeswyr esgeulus o foddion gras. Cyfododd amgylchiadau yn ddiweddarach mewn bywyd a arweiniasant fy mam i esgeuluso y moddion, a bu yr esgeulusdod hwnnw yn niweidiol iawn iddi. Ond ym more ei hoes ni bu hyn yn fai arni; bu yn ffyddlon ac ymdrechgar gyda holl weinyddiadau crefydd.
VI. MEWN GWASANAETH.
Ni wneir digon o ystyriaeth o sefyllfa gweision a morwynion yn gyffredin. Rhy fynych y gwneir caethion ymarferol o honynt, ac y cedwir hwy mewn anwybodaeth. O bump yn y bore hyd ddeg yn yr hwyr, llafur yw eu rhan. Ni chaniateir iddynt amser i ddar-