llen, nac i gyrraedd un gangen o wybodaeth. Anfynych y gofala y penteulu am ddysgu ffordd yr Arglwydd iddynt yn fanylach. Trinir nwy fel creaduriaid israddol o ran cyrff a meddyliau. Bu fy mam yn ffodus iawn mewn dau le. Derbyniodd garedigrwydd, tynerwch, a hyfforddiad. Bu yn ddiolchgar am y caredigrwydd, a gwnaeth ddefnydd o'r addysg. Y lleoedd hyn oeddent Coed y Foel, gyda'r hynaws a'r dduwiol Dorothy Jones; ac yn y Bala, gyda Mr. Evan Evans, llawfeddyg, tad y diweddar Barch. William Evans o Stockport. Yr oedd Dorothy Jones yn wir fam yn Israel. Yr oedd yn hynaws, siriol, a llariaidd gyda'i gweinidogion, a thriniai ei holl amgylchiadau yn fedrus a phwyllgar. Dwywaith yn y dydd yr ymneillduai i'w hystafell ddirgel, a bore a hwyr y gofalai na byddai allor Duw yn ei theulu heb arogldarth. Bu farw y wraig rinweddol hon yn y flwyddyn 1846, ar ol proffes anrhydeddus o bymtheg mlynedd ar hugain o barhad. Gŵr dysgedig, gwybodus, a synwyrol oedd Mr. Evan Evans. Ei dŷ oedd noddfa cyfeillion rhyddid gwladol yn y Bala, yn amser chwyldroad Ffrainc. Yr oedd yn lle manteisiol a dymunol i ddynes ieuanc drigo ynddo.
Wedi gadael ei bro enedigol, treuliodd fy mam rai blynyddoedd yn ardal Gwrecsam a Chaerlleon. Cafodd gyfle drwy hyn i weled ychydig mwy o'r byd nag sydd yn digwydd i ran llawer o ferched Cymru. Ymhen amser dychwelodd yn ol i'w gwlad, ac at ei phobl ei hun. Yn fuan ar ol hynny, symudodd i Ddolgellau, lle y treuliodd amryw flynyddoedd yng ngwasanaeth Francis Roberts, Ysw., a'i briod, yr hon oedd yn un o hiliogaeth yr hybarch Edmund Prys, Archddiacon Meirionnydd. Nid wyf yn meddwl fod gan yr Anibynwyr wasanaeth rheolaidd yn Nolgellau y pryd hwnnw. Tua'r Brithdir, Rhyd y Main, a Llanelltyd yr oedd raid myned i ymofyn am fara y bywyd. Yr oedd yn Nolgellau amryw gyfeillion ffyddlon. Yn yr adeg hon yr oedd Pugh o'r Brithdir yn ei flodau," yn llafurio mewn amser ac allan o amser. Yr oedd Mr. Pugh yn bregethwr hyawdl a galluog, yn serchog o ran ei deimladau, ac yn gyfaddas iawn ym mhob ystyr i fod yn efengylwr ei fro enedigol. Mae yn wir y byddai ei fam, yr hybarch Mary Pugh, yn ei ddisgyblu yn dost ambell dro am wyro yn yr "athrawiaeth;" ond gyda fy holl barch i goffadwriaeth Mary Pugh, a'm hadgofion hyfryd am bob brechdan fêl a gefais ganddi, credaf ei bod braidd yn rhy brysur yn y gorchwyl yma, ac y gallai y mab fod yn well duwinydd na'i fam.