VII. PRIODAS.
Symudodd fy mam o Ddolgellau i'r Hengwrt Uchaf, yn ymyl Rhyd y Main, ac yno y priododd. Fy nhad oedd fab hynaf dau hen bererin a fuont yn aelodau yn Rhyd y Main am flynyddoedd meithion, John a Margaret Evans o'r Esgeiriau. Gorffennodd ef ei yrfa yn 1827, a hithau yn 1845, ill dau mewn oedran teg. Buont ddiwyd gyda phethau y byd hwn, a buont yn ffyddlon yn eu hymwneyd â moddion gras. Anfynych, tra y gallodd ymsymud, er fod ei golwg wedi pallu, y byddai fy nain yn absennol o Ryd y Main; a phan oedd ei chnawd a'i chalon yn pallu, hoffus iawn oedd ganddi gael cyfarfod gweddi yn y tŷ. Tangnefedd i'w llwch! yn ol eu gwybodaeth buont ffyddlon. Nid oedd fy nhad yn grefyddwr pan y priododd. O herwydd hyn ymneillduodd fy mam o gymundeb yr eglwys. Anhyall'i mi ddywedyd i ba ddiben, oblegid dychwelodd yn ei hol yn ddioed. Y prawf cadarnaf ei bod wedi "ieuo yn anghymarus " oedd fod yn agos i bymtheg mlynedd o wahaniaeth oedran rhyngddi hi a fy nhad. Yr oedd hyn yn wall mewn barn, yn enwedig gan fod yr henaint o'i thu hi. Pa mor ddedwydd bynnag y dichon amgylchiadau teuluaidd fod, teimlir hyn i ryw raddau. Y mae undeb teimlad a chydymdrech yn ddiffygiol. Gwywa un tra mae y llall yng nghryfder ei nerth, a'i fronnau yn llawn llaeth. Ond yr wyf yn methu a deall gwerth adferiad eglwysig o drosedd ag y parheir ynddo, ac nas gellir edifarhau am dano. Pe y gellid edifarhau, byddai rheswm mewn adferiad o dan ddysgyblaeth. Ar yr un pryd, caniateir i mi grybwyll fy mod yn credu yn gadarn nad oes nemawr rwystr mwy effeithiol i rym a llwyddiant crefydd na phriodasau rhwng y credadyn a'r anghredadyn. Nis gall crefydd deuluaidd flaguro, ac nis gall y penteulu rodio ynghyd i gynteddoedd Arglwydd y lluoedd. Bydolir meddwl y proffesedig y rhan fynychaf. Yn anffodus i ewyllys dyn, gwirionedd perffaith ydyw nas gellir "gwasanaethu dau arglwydd." Arbedwyd i fy mam y trallodion hyn drwy i fy nhad ymuno â chrefydd yn fuan. Os nad wyf yn camgymeryd, efe oedd y cyntaf a dderbyniwyd yn Nolgellau yn yr oes hon. Nid oedd dim o ddisgyblion yr "athraw parchedig" Hugh Owen o Fron y Clydwr, y rhai gynt a ymgasglent yn y "Ty Cyfarfod," yn aros. O'r Brithdir a Rhyd y Main yr ail ddygwyd ei egwyddorion i'w hau yn Nolgellau—ar y cyntaf ym Mhenbryn Glas,